Croeso i Gronfa Bensiwn Caerdydd a Bro Morgannwg
Mae Cronfa Bensiwn Caerdydd a Bro Morgannwg yn rhan o’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol cenedlaethol. Gall staff Cyngor Dinas Caerdydd, Cyngor Bro Morgannwg, Prifysgol Fetropolitan Caerdydd, Coleg Caerdydd a’r Fro a nifer o gyrff gwasanaethau cyhoeddus eraill nad ydynt yn addysgu ymaelodi.
Gweinyddir y Gronfa gan Adran Bensiynau Cyngor Dinas Caerdydd.
Mae Cronfa Bensiwn Caerdydd a Bro Morgannwg hefyd yn cynnal ei gwefan ei hun lle gallwch gael gwybodaeth am y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, Cronfa Bensiwn Caerdydd a Bro Morgannwg a lle gallwch lawrlwytho ffurflenni. Hefyd, mae gwefan genedlaethol aelodau’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol ar gael lle gallwch gyrchu gwahanol gyfrifianellau a ffurflenni. Efallai y bydd yr adnoddau hyn yn rhoi’r ateb yr ydych yn chwilio amdano, felly cofiwch eu defnyddio.
Os bydd angen i chi ffonio ni ein rhif ffôn yw 029 2087 2334 ac efallai y gofynnir i chi adael neges. Os yw eich cais yn un brys, byddwn yn ymateb cyn gynted ag y gallwn i’ch helpu gyda’ch ymholiadau.