Mae’r CPLlL ar gael i bob cyflogai Llywodraeth Leol nad yw’n addysgu. Hefyd, mae cyflogeion detholedig eraill sydd wedi dewis ymuno â’r CPLlL, a gallwch ymuno â’r Cynllun os cewch eich enwebu gan eich cyflogwr. Dyma Restr o Gyflogwyr (170kb PDF) sy’n aelodau o Gronfa Bensiwn Caerdydd a’r Fro.
Byddwch yn ymuno â’r Cynllun yn awtomataidd os dechreuwch swydd newydd:
- a chithau’n gymwys i fod yn aelod o’r CPLlL
- gyda chontract cyflogaeth o 3 mis neu fwy
- a chithau o dan 75 oed
Fodd bynnag, os yw’ch contract cyflogaeth yn llai na 3 mis, ni fyddwch yn ymuno â’r Cynllun yn awtomataidd, ond cewch yr opsiwn i ymuno.
Os hoffech chi ymuno â’r cynllun pensiwn llenwch y Ffurflenni Ymuno a’u dychwelyd i’ch Cyflogwr..
Ymuno â’r Cynllun
Os hoffech chi ymuno â’r Gronfa Bensiwn, llenwch y ffurflen hon:
Gwasanaeth Cynghori ar Bensiwn
Gwefan lywodraeth yn cynnig canllawiau ac arweiniad diduedd am ddim ar bensiynau
Beth sydd ar gael
Gwybodaeth ac offer ar-lein, gwasanaeth sgwrsio ar-lein, llinell gymorth ffôn, apwyntiadau personol
Cwestiwn?
Gofyn am ddogfen mewn fformat hygyrch.