Mae’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL)ar gael i bob cyflogai nad yw’n addysgu yn y Llywodraeth Leol, yn ogystal â Chyflogwyr/sefydliadau eraill sydd wedi dewis ymuno â’r Cynllun. Dyma List of Employers (PDF) sy’n aelodau o Gronfa Bensiwn Caerdydd a Bro Morgannwg.
Byddwch yn ymuno â’r Cynllun yn awtomatig os yw’r canlynol yn berthnasol:
- rydych yn gymwys i fod yn aelod o’r CPLlL
- Mae gennych gontract cyflogaeth o 3 mis neu fwy
- Rydych dan 75 oed
Fodd bynnag, os ydych yn gyflogai achlysurol neu os oes gennych gontract am lai na 3 mis ni fyddwch yn ymuno â’r Cynllun yn awtomatig, ond gallwch ddewis ymuno – os hoffech ymuno â’r Cynllun llenwch y Ffurflenni ymuno a’u dychwelyd i’ch cyflogai.
Pan fyddwch wedi ymuno â’r Cynllun, gallwch ddewis optio allan ar unrhyw adeg drwy lenwi ffurflen optio allan (504kb PDF) .
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
Ewch i wefan CPLlL i gael rhagor o fanylion am eich pensiwn a defnyddio offer ar-lein i’ch helpu i gyfrifo’ch cyfraniadau pensiwn neu weld oddeutu faint fydd eich pensiwn pan fyddwch yn ymddeol.
Gwasanaeth Cynghori Ariannol
Gwasanaeth diduedd wedi’i greu gan y Llywodraeth i roi cyngor diragfarn am ddim. Cewch fanteisio ar gynllunwyr cyllideb gwych yn ogystal ag offer arall.
Cwestiwn?
Gofyn am ddogfen mewn fformat hygyrch.