Ceir pedair ffordd o ymddeol o’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL).
Os ydych wedi bod yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol am o leiaf ddwy flynedd neu os ydych chi wedi trosglwyddo hawliau pensiwn blaenorol, gallwch ddewis ymddeol a chael taliadau eich pensiwn o 55 (bydd hyn yn cynyddu i 57 oed o 6 Ebrill 2028) ymlaen. I gymryd Ymddeoliad Gwirfoddol, mae angen ichi adael eich cyflogaeth.
Fodd bynnag, os byddwch yn ymddeol cyn eich Oedran Ymddeol Arferol, bydd eich buddion yn gostwng i wneud yn iawn am y taliadau cynnar.
Cyfrifir y gostyngiad gan ddefnyddio ffactorau a chanllawiau a gyhoeddir gan Adran Actiwari’r Llywodraeth. Gweler y Ffactorau Hyn Yma, i roi arweiniad ichi o ran canran y gostyngiad. Os nad yw nifer y blynyddoedd yn union, cyfrifir canrannau’r gostyngiad rhwng y ddau oedran.
If Os ydych chi wedi bod yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL) am o leiaf ddwy flynedd neu os ydych chi wedi trosglwyddo buddion o hawliau pensiwn blaenorol i’r cynllun hwn, gallwch wneud cais am Ymddeoliad Hyblyg.
I wneud cais am Ymddeoliad Hyblyg bydd angen ichi fod yn 55 yn newid i 57 oed o 6 Ebrill 2028 hŷn, a bodloni meini prawf polisi Ymddeoliad Hyblyg eich Cyflogwr. Os byddwch yn llwyddiannus, gallwch barhau i weithio oriau gostyngedig neu symud i swydd gyda llai o gyfrifoldeb. Gallech hefyd barhau i dalu i mewn i’r CPLlL o dan eich contract cyflogaeth newydd, gan gronni buddion ychwanegol yn y cynllun.
Os byddwch yn colli eich swydd oherwydd iddi gael ei dileu, neu ar gyfer effeithlonrwydd busnes, a’ch bod yn 55 yn newid i 57 oed o 6 Ebrill 2028 hŷn ac yn bodloni’r gofyniad am gyfnod breinio o ddwy flynedd, cewch eich prif fuddion ar unwaith heb unrhyw ostyngiadau ymddeoliad cynnar. Er hynny, byddai unrhyw bensiwn ychwanegol a delir drwy Gyfraniadau Pensiwn Ychwanegol (CPY), Cyfaniadau Rheolaidd Ychwanegol (CRY) neu Gyfraniadau Pensiwn Ychwanegol â Chost a Rennir yn cael ei dalu ar gyfradd ostyngedig os yw’r ymddeoliad yn digwydd cyn eich Oedran Ymddeol Arferol (i wneud yn iawn am y pensiwn ychwanegol a gaiff ei dalu am gyfnod hirach).
Os ydych chi wedi bod yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL) am o leiaf 2 flynedd neu os ydych wedi trosglwyddo hawliau pensiwn blaenorol i’r cynllun hwn, ac rydych yn rhy sâl i barhau i weithio, gall fod gennych hawl i gael eich buddion pensiwn ar unwaith. Gellir talu’r buddion hyn heb ostyngiad am ymddeoliad cynnar, ac mewn rhai achosion gall eich pensiwn gael ei uwchraddio.
Bydd Ymarferydd Meddygol Cofrestredig Annibynnol a benodir gan eich Cyflogwr yn ystyried eich achos ac os bydd yn ardystio eich bod:
- yn analluog yn barhaol o ran cyflawni dyletswyddau eich cyflogaeth, ac
- yn analluog o gael swydd gyflogedig eto cyn eich Oedran Ymddeol Arferol – ystyr swydd gyflogedig yw cyflogaeth â thâl am ddim llai na 30 awr yr wythnos am gyfnod o ddim llai na 12 mis.
Gallech gael pensiwn heb ostyngiad am daliadau cynnar, ac mewn rhai achosion gallai eich pensiwn gael ei uwchraddio fel pe baech wedi aros yn y Cynllun nes eich oedran ymddeol arferol.
Os oes angen gwybodaeth fanylach ar y Buddion Salwch 3 Haen, mae croeso ichi gysylltu â ni.
Mae’r broses ymddeol oherwydd salwch yn cael ei llywodraethu gan eich Cyflogwr.
Pan fyddwch yn ymddeol bydd gennych ddewis i gyfnewid rhywfaint o’ch pensiwn i gael arian parod di-dreth (yn amodol ar gyfyngiadau CThEM). Byddwn yn anfon manylion atoch chi o ran yr uchafswm crynswth taladwy ar ôl i’ch cyflogwr gadarnhau eich dyddiad ymddeol a manylion eich cyflog.
Telir eich pensiwn drwy gydol eich oes, a bydd yn cynyddu bob blwyddyn yn unol â Mynegai Prisiau Defnyddwyr .
Mae gennych hyblygrwydd i ymddeol a manteisio ar eich buddion rhwng 55 yn newid i 57 oed o 6 Ebrill 2028 a 75 oed. Fodd bynnag, os ydych yn gymwys am fuddion salwch, gellir talu y rhain ar unrhyw oedran.
Mae eich Oedran Pensiwn Arferol, ynglŷn â’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL) yn gysylltiedig â’ch Oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Felly, os bydd unrhyw newid yn eich Oedran Pensiwn Y Wladwriaeth, bydd hyn yn newid eich Oedran Pensiwn Arferol ynglŷn â’ch CPLlL.
I fod yn gymwys ar gyfer buddion ymddeol yn y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, mae’n rhaid ichi fod wedi eich ymaelodi am o leiaf 2 flynedd neu wedi trosglwyddo buddion pensiwn blaenorol i’r cynllun.
Os gwnaethoch chi ymuno â’r CPLlL cyn 1 Hydref 2006 ac rydych yn ymddeol o’ch gwirfodd cyn eich Oedran Ymddeol Arferol, gall rhan o’ch pensiwn gael ei diogelu o dan ddiogelwch y Rheol 85 Mlynedd . Mae croeso ichi gysylltu â ni, os hoffech gael rhagor o wybodaeth.
Os caiff eich buddion pensiwn eu talu’n gynnar oherwydd Dileu Swyddi neu brosesau Effeithlonrwydd Busnes, ni fydd gostyngiadau am daliadau cynnar.
Budd-daliadau’r wladwriaeth
Dewch o hyd i fanylion am fudd-daliadau a phensiwn y wladwriaeth, a sut i gael rhagolwg o bensiwn y wladwriaeth.
Gwasanaeth Cynghori ar Bensiwn
Gwefan y Llywodraeth yn cynnig canllawiau ac arweiniad diduedd am ddim ar bensiynau
Beth sydd ar gael
Gwybodaeth ac offer ar-lein, gwasanaeth sgwrsio ar-lein, llinell gymorth ffôn, apwyntiadau personol
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
Ewch i wefan CPLlL i gael rhagor o fanylion am eich pensiwn a defnyddio offer ar-lein i’ch helpu i gyfrifo’ch cyfraniadau pensiwn neu weld oddeutu faint fydd eich pensiwn pan fyddwch yn ymddeol.
Cwestiwn?
Gofyn am ddogfen mewn fformat hygyrch.