Caiff yr holl fuddion pensiwn a gornwyd ers 1 Ebrill 2014, eu cyfrifo ar sail Cyfartaledd Cyflog Gyrfa wedi’i Adbrisio (CARE).
Mae swm y pensiwn yr ydych yn ei gronni yn seiliedig ar eich cyflog pensiynadwy gwirioneddol. Bob blwyddyn, caiff un rhan o 49 o’ch cyflog pensiynadwy ac unrhyw gyflog pensiynadwy tybiedig ei rhoi yn eich cyfrif pensiwn. Ar ddiwedd y flwyddyn mae’r pensiwn yr ydych chi wedi’i gronni yn cynyddu yn unol â’r costau byw – Mynegai Prisiau Defnyddwyr.
Felly, seilir yr amcangyfrif ar:
Cyflog Pensiynadwy Gwirioneddol o 1 Ebrill tan 31 Mawrth ÷ 49 = Pensiwn Blynyddol
Pan fyddwch yn ymddeol gallwch hefyd ddewis gyfnewid rhan o’ch pensiwn am swm crynswth di-dreth – a elwir Cyfnewid. Gallwch gyfnewid hyd at 25% o werth cyfalaf eich buddion. Am bob £1 yr ydych yn ei chyfnewid o’ch pensiwn, byddwch yn cael £12 yn swm crynswth.
£1 pensiwn = £12 swm crynswth di-dreth
Bydd unrhyw oramser y gwnaethoch ei weithio heb gontract yn cael ei gynnwys wrth gyfrifo eich pensiwn.
Cyfrifir yr holl fuddion pensiwn a gronnwyd ar neu ar ôl 31 Mawrth 2014 ar sail Cyflog Terfynol pan fyddwch yn ymddeol, ond gan ddefnyddio eich cyflog pensiynadwy ar adeg eich ymddeoliad.
Cyfrifir eich buddion pensiwn o’r Cyflog Terfynol yn wahanol yn ddibynnol ar pryd y gwnaethoch eu cronni.
Buddion Pensiwn a Gronnwyd erbyn 31 Mawrth 2008
Caiff eich buddion pensiwn a gronnwyd cyn 31 Mawr 2018 eu cyfrifo ar 1/80 o’ch cyflog terfynol ar ddyddiad eich ymddeoliad, ynghyd â swm crynswth awtomatig.
Aelodaeth (blynyddoedd a diwrnodau) ÷ 80 x Cyflog Terfynol wrth Ymddeol = Pensiwn Blynyddol
Pensiwn Blynyddol x 3 = Swm crynswth di-dreth awtomatig
Hefyd, mae gennych y dewis i gyfnewid rhywfaint o’ch pensiwn am swm crynswth ychwanegol. Am bob £1 o bensiwn yr ydych yn ei chyfnewid, cewch swm crynswth o £12, hyd at uchafswm o 25% o werth cyfalaf eich buddion.
£1 pensiwn = £12 swm crynswth di-dreth
Buddion Pensiwn a Gronnwyd o 1 Ebrill 2008 tan 31 Mawrth 2014
Caiff eich buddion pensiwn a gronnwyd o 1 Ebrill 2008 tan 31 Mawrth 2014 eu cyfrifo ar 1/60 o’ch cyflog terfynol ar ddyddiad eich ymddeoliad, heb hawl awtomatig i swm crynswth.
Aelodaeth (blynyddoedd a diwrnodau) ÷ 60 x Cyflog Terfynol wrth Ymddeol = Pensiwn Blynyddol
Gallwch ddewis cyfnewid rhywfaint o’ch pensiwn am swm crynswth di-dreth (hyd at uchafswm o 25% o werth cyfalaf eich buddion). Am bob £1 yr ydych yn ei chyfnewid o’ch pensiwn, byddwch yn cael £12 yn swm crynswth, hyd at yr uchafswm.
£1 pensiwn = £12 swm crynswth di-dreth.
Pan fyddwch yn ymddeol caiff eich Cyflog Terfynol a’ch buddion CARE eu hychwanegu at ei gilydd i roi cyfanswm eich buddion pensiwn ichi. Cewch hefyd y dewis i aberthu rhywfaint o’ch pensiwn i gael arian parod di-dreth (h.y. Cyfnewid).
Os ydych chi wedi cronni unrhyw fuddion pensiwn cyn 2008 bydd gennych swm crynswth awtomatig a fydd yn berthnasol i’r buddion pensiwn hyn. Bydd y swm crynswth hwn yn ategol i’r swm crynswth a gewch wrth aberthu rhan o’ch pensiwn.
Diogelu Ymhellach
Pan newidiwyd y cynllun ar 1 Ebrill 2014, rhoddwyd dulliau diogelu ychwanegol ar waith i ddiogelu aelodau a oedd yn agos at eu hoed ymddeol. Gwnaed hyn gyda’r nod o sicrhau y bydd eich pensiwn yn aros yn gyfartal â’r pensiwn y byddech fod wedi ei gael pe na fyddai’r cynllun wedi newid.
Mae’r dulliau diogelu yn berthnasol ichi yn yr achosion canlynol:
- Roeddech yn talu i mewn i’r Cynllun ar 31 Mawrth 2012, ac
- Roedd 10 mlynedd ar ôl tan ichi gyrraedd Oedran Pensiwn Arferol (65 oed fel arfer) ar 1 Ebrill 2012, ac
- Nid oedd gennych doriad datgymhwyso yn eich gwasanaeth o fwy na 5 mlynedd, ac
- Nid ydych wedi cymryd unrhyw fuddion o’r CPLlL cyn cyrraedd Oedran Pensiwn Arferol, ac
- Rydych yn gadael gyda’r hawl i dderbyn buddion ar unwaith
Os oes gennych yr hawl i fanteisio ar y dulliau diogelu hyn, pan fyddwch yn ymddeol, byddwn yn gwneud yn siŵr bod y pensiwn yr ydych wedi’i gronni o leiaf yn gyfartal â’r pensiwn y byddech fod wedi derbyn pe na fyddai’r cynllun wedi newid ar 1 Ebrill 2014, gan sicrhau eich bod yn cael y ‘fargen orau’ bob tro.
Beth os dechreuais ar y Cynllun ar neu ar ôl 1 Ebrill 2014?
Os gwnaethoch ymuno âr CPLlL ar neu ar ôl 1 Ebrill 2014, cyfrifir eich holl fuddion pensiwn ar sail CARE. NI FYDD unrhyw ran o’r wybodaeth ynglŷn â ‘Cyflog Terfynol’ yn berthnasol ichi.
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
Ewch i wefan CPLlL i gael rhagor o fanylion am eich pensiwn a defnyddio offer ar-lein i’ch helpu i gyfrifo’ch cyfraniadau pensiwn neu weld oddeutu faint fydd eich pensiwn pan fyddwch yn ymddeol.
Budd-daliadau’r wladwriaeth
Dewch o hyd i fanylion am fudd-daliadau a phensiwn y wladwriaeth, a sut i gael rhagolwg o bensiwn y wladwriaeth.
Gwasanaeth Cynghori Ariannol
Gwasanaeth diduedd wedi’i greu gan y Llywodraeth i roi cyngor diragfarn am ddim. Cewch fanteisio ar gynllunwyr cyllideb gwych yn ogystal ag offer arall.
Cwestiwn?
Gofyn am ddogfen mewn fformat hygyrch.