Lwfans Blynyddol yw’r uchafswm y gall eich buddion pensiwn gynyddu yn ystod Blwyddyn o’r Cynllun heb fod angen ysgwyddo ffi dreth ychwanegol. Yr uchafswm ar hyn o bryd yw £60,000 o 1 Ebrill 2023 ymlaen, ond yr uchafswm cyn hynny oedd £40,000. Pe byddai eich swm cyfraniad pensiwn yn mynd yn uwch na’r swm hwn, gellir codi ffi dreth ychwanegol.
Fodd bynnag, gellir defnyddio unrhyw lwfans nas defnyddir yn y tair blynedd diwethaf i wneud yn iawn am y cynnydd hwn. Dylech ystyried hefyd unrhyw fudd pensiwn arall a all fod gennych wrth asesu eich Swm Cyfraniad Pensiwn, gan gynnwys Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol.
Dylid ystyried hefyd buddion a godir gan Blynyddoedd wedi’u Hychwanegu, Cyfraniadau Rheolaidd Ychwanegol (CRY), Cyfraniadau Pensiwn Ychwanegol (CPY), symiau wedi eu trosglwyddo o gyfnod cyfrannu at bensiwn blaenorol a debydau pensiwn a archebwyd mewn pensiwn blaenorol.
Am ragor o wybodaeth gweler Ffeithlen Lwfans Blynyddol y CPLlL (PDF) a Thaflen Wybodaeth Taliadau Cynllun Lwfans Blynyddol y CPLlL (PDF) .
Os ydych yn credu y bydd y cyfyngiad Lwfans Blynyddol yn effeithio arnoch, mae croeso ichi gysylltu â ni.
Cyfrifiannell Lwfans Blynyddol
Defnyddiwch gyfrifiannell y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.
Gwasanaeth Cynghori ar Bensiwn
Gwefan y Llywodraeth yn cynnig canllawiau ac arweiniad diduedd am ddim ar bensiynau
Beth sydd ar gael
Gwybodaeth ac offer ar-lein, gwasanaeth sgwrsio ar-lein, llinell gymorth ffôn, apwyntiadau personol
Cwestiwn?
Gofyn am ddogfen mewn fformat hygyrch.