Gall gwneud penderfyniad i ymddeol fod yn adeg heriol a llawn straen, a heb os, bydd gennych chi lawer o gwestiynau. Rydym ni yma, yng Nghronfa Pensiwn Caerdydd a Bro Morgannwg, yn dymuno gwneud y cofnod pontio hwn mor esmwyth â phosibl ichi, ac rydym ar gael i ateb unrhyw gwestiynau a all fod gennych. Gallwn ni hefyd eich helpu i lenwi’r gwaith papur.
Fodd bynnag, ni all Cronfa Pensiwn Caerdydd a Bro Morgannwg rhoi unrhyw gyngor ariannol ichi. Os oes angen Cyngor Ariannol Annibynnol arnoch, wrth wneud penderfyniadau ynghylch eich ymddeoliad, ewch i Unbiased .
Sut mae gwneud cais i Ymddeol?
Cewch ymddeol unrhyw bryd ar ôl troi’n 55 oed, neu ar unrhyw oedran os ydych yn bodloni meini prawf ar gyfer ymddeol oherwydd salwch – os ydych yn credu eich bod yn bodloni’r meini prawf salwch, cysylltwch â’ch Cyflogwr i gael rhagor o wybodaeth.
Os penderfynwch ymddeol, mae angen ichi roi gwybod i’ch Cyflogwr. Ar ôl i’ch Cyflogwr gadarnhau eich penderfyniad, byddwn yn anfon eich ffigurau ymddeol atoch, ynghyd â’r dewisiadau sydd ar gael ichi, a hefyd unrhyw ffurflenni y bydd angen ichi eu llenwi i’ch cyfeiriad cartref.
Pa wybodaeth sydd ei hangen i brosesu fy ymddeoliad?
Bydd angen ichi lenwi’r holl ffurflenni ymddeol a anfonir atoch gyda’ch ffigurau ymddeol a’u dychwelyd i Gronfa Pensiwn Caerdydd a Bro Morgannwg, yn ogystal ag unrhyw ddogfennau y gofynnwyd amdanyn nhw gyda’r ffurflenni – er enghraifft:
- Tystysgrif Priodas
- Datganiad o Bartneriaeth Sifil
- Archddyfarniad Absoliwt – os ydych wedi eich ysgaru neu os diddymwyd eich partneriaeth sifil
- Tystysgrif Geni a Thystysgrif Marwolaeth eich priod neu eich partner sifil – os ydych yn hawlio pensiwn y goroeswr
Bydd angen ichi roi eich manylion cyfrif Banc neu Gymdeithas Adeiladu hefyd, lle yr hoffech inni dalu eich taliadau pensiwn. Hefyd, gallwch drefnu i gael eich swm crynswth di-dreth mewn cyfrif ar wahân i gyfrif eich pensiwn.
A all fy mhensiwn gael ei dalu mewn cyfrif banc dramor?
Os hoffech inni dalu eich pensiwn mewn cyfrif banc tramor, bydd angen ichi gysylltu â thîm taliadau Cyngor Caerdydd ar rif ffôn: 029 2087 2311 a gofyn am Ffurflen Mandadu Bancio, gan nodi’r wlad y dymunwch gael eich pensiwn ei dalu. Gall y broses hon gymryd nifer o wythnosau i’w gosod.
Codir tâl £2.74 fesul taliad am gael eich pensiwn mewn cyfrif tramor. Didynnir y ffi hon oddi ar y pensiwn a delir i’r banc cyn i’r cyfnewid arian ddigwydd – dylech wirio gyda’ch banc tramor a oes tâl a godir am y cyfnewid.
A fydd gennyf slip tâl papur?
Byddwn yn anfon slip tâl Pensiynwr i’ch cyfeiriad cartref, yn yr amodau canlynol:
- i’ch hysbysu am eich taliad pensiwn cyntaf
- os yw eich pensiwn yn amrywio gan fwy na £10 y mis
- pob mis Ebrill
Gwirio eich Treth Incwm
Gallwch fynd i wefan y Llywodraeth a gweld faint o dreth y dylech ei thalu.
Tracio Pensiwn y Llywodraeth
Traciwch bensiynau sydd gennych gyda chyflogwyr blaenorol gan ddefnyddio Gwasanaeth Tracio Pensiynau’r Llywodraeth
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
Defnyddiwch yr offeryn ar-lein i gyfrifo eich buddion pensiwn.
Gwasanaeth Cynghori ar Bensiwn
Gwefan y Llywodraeth yn cynnig canllawiau ac arweiniad diduedd am ddim ar bensiynau
Beth sydd ar gael
Gwybodaeth ac offer ar-lein, gwasanaeth sgwrsio ar-lein, llinell gymorth ffôn, apwyntiadau personol
Gofyn am ddogfen mewn fformat hygyrch.