Ar 1 Ebrill 2008, cyflwynwyd Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL) 2007 yng Nghymru a Lloegr, a newidiodd sut caiff buddion eu cyfrifo.
Os gadawsoch y cynllun ar neu cyn 31 Mawrth 2008, ni fydd cyflwyno’r cynllun hwn yn effeithio ar eich buddion gohiriedig.
Gweler mwy o wybodaeth am sut caiff eich buddion gohiriedig eu cyfrifo.
Oedran ymddeol arferol y cynllun yw 65 , ond gallwch ddewis derbyn eich buddion CPLlL ar unrhyw adeg o 55 oed. Fodd bynnag, caiff eich pensiwn ei leihau ar gyfer taliad cynnar – gweler Ffactorau Ymddeol yn Gynnar (PDF) wedi’i gyfrifo gan Adran Actiwari’r Llywodraeth (GAD).
Os gadawsoch y cynllun â buddion gohiriedig ar neu cyn 31 Mawrth 2008, mae’n bosib y gallech dderbyn eich buddion CPLlL yn wirfoddol o oedran mor gynnar â 55.
Mewn achosion o afiechyd, NID OES UNRHYW derfyn oedran.
Os gadawsoch y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL) ar neu cyn 31 Mawrth 2008, bydd eich buddion gohiriedig wedi cael eu cyfrifo trwy ddefnyddio eich tâl pensiynadwy cyfwerth amser cyfan ar y dyddiad y penderfynoch beidio ag ymuno neu’r dyddiad y gadawsoch, a’ch aelodaeth o’r cynllun hyd hynny.
Eich Aelodaeth o’r Cynllun
Caiff hyd eich aelodaeth gyfan ei fesur mewn blynyddoedd a diwrnodau ac mae’n cynnwys hyd yr amser rydych wedi bod yn aelod o’r CPLlL, yn ogystal ag unrhyw aelodaeth a ddyrannwyd i drosglwyddo hawliau pensiwn blaenorol i’r cynllun.
Os oeddech yn gweithio’n rhan-amser yn ystod y cyfnodau hyn, mae’n debyg mai pro rata oedd eich aelodaeth gyfan er mwyn cymryd eich oriau rhan-amser i ystyriaeth.
Eich Tâl Terfynol
Hwn yw swm y tâl pensiynadwy yr ydych wedi’i dderbyn yn ystod blwyddyn olaf eich cyflogaeth h.y. 365 diwrnod yn ôl o’ch diwrnod gadael. Fodd bynnag, gallai fod yn seiliedig ar y ddwy flynedd flaenorol, os yw’n uwch.
Os ydych yn gweithio’n rhan-amser, caiff eich tâl terfynol ei gyfrif fel cyfwerth amser cyfan.
NI FYDD unrhyw oramser heb gontract a weithiwyd gennych yn cael ei gynnwys wrth gyfrifo eich tâl terfynol.
Cyfrifo eich Buddion Gohiriedig
Yn achos aelodaeth hyd at 31 Mawrth 2008, caiff buddion eu cyfrifo ar rannau o 80, gyda hawl awtomatig i gyfandaliad cyfwerth â theirgwaith eich pensiwn blynyddol.
Aelodaeth ÷ 80 x Tâl Terfynol = Pensiwn Blynyddol
Ar ôl i chi ymddeol, byddwch hefyd yn cael yr opsiwn i ildio peth o’ch pensiwn i gynyddu eich cyfandaliad awtomatig. I gael gwybod mwy, gweler y tab Cyfnewid eich Pensiwn isod.
Mae eich buddion gohiriedig yn gysylltiedig â’r mynegai, felly bydd eich gwerth yn cynyddu bob mis Ebrill yn unol â’r Mynegai Prisiau Defnyddwyr (MPD) .
Ar ôl i chi ymddeol, byddwch yn cael yr opsiwn i ildio peth o’ch pensiwn er mwyn cael cyfandaliad di-dreth – a elwir yn Gyfnewidiad. Am bob £1 o’ch pensiwn rydych yn ei ildio, byddwch yn derbyn £12 o gyfandaliad (hyd at 25% o werth cyfalaf eich buddion ac yn ogystal ag unrhyw hawl cyfandaliad awtomatig a allai fod gennych o ran eich aelodaeth hyd at ac yn cynnwys 31 Mawrth 2008). Fodd bynnag, os gadawoch cyn 31 Mawrth 1986 ni fydd gennych yr opsiwn hwn.
Pan fyddwch yn dweud wrthym eich bod yn ystyried ymddeol, byddwn yn anfon eich manylion ymddeol atoch a fydd yn cynnwys ffigurau ar gyfer eich gwerthoedd pensiwn sylfaenol ac uchafswm y symiau cyfandaliad ychwanegol y gallwch eu cymryd. Byddwn hefyd yn anfon manylion atoch ynglŷn â sut i gyfnewid eich pensiwn am gyfandaliad.
Os ydych erioed wedi cyfrannu at drefniad AVC mewnol, gallech ystyried defnyddio’r gronfa hon i hybu eich buddion CPLlL. NI fydd unrhyw ostyngiad i’ch pensiwn blynyddol er mwyn rhoi cyfandaliad di-dreth yn lleihau unrhyw fuddion goroeswr dilynol a allai fod yn daladwy ar ôl i chi farw.
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
Ewch i wefan CPLlL i gael rhagor o fanylion am eich pensiwn a defnyddio offer ar-lein i’ch helpu i gyfrifo’ch cyfraniadau pensiwn neu weld oddeutu faint fydd eich pensiwn pan fyddwch yn ymddeol.
Gwasanaeth Cynghori Ariannol
Gwasanaeth diduedd wedi’i greu gan y Llywodraeth i roi cyngor diragfarn am ddim. Cewch fanteisio ar gynllunwyr cyllideb gwych yn ogystal ag offer arall.
Cwestiwn?
Gofyn am ddogfen mewn fformat hygyrch.