Partneriaeth Pensiwn Cymru
Mae Cronfa Bensiwn Caerdydd a Bro Morgannwg yn un o wyth cronfa CPLlL yng Nghymru sy’n rhan o Bartneriaeth Pensiwn Cymru. Cafodd Partneriaeth Pensiwn Cymru ei sefydlu ym mis Mehefin 2017 fel y gall yr wyth cronfa gydweithio i gyfuno eu buddsoddiadau gyda’r nod o leihau costau buddsoddi gan wella neu gynnal a chadw perfformiad buddsoddi.
Darllenwch Cyflwyniad Cronfa Buddsoddi Cymru (PDF) i Lywodraeth y DU, sy’n nodi’r cynigion ar gyfer y gronfa fuddsoddi.
Ym mis Rhagfyr 2017 penododd Partneriaeth Pensiwn Cymru Link Fund Solutions Limited i weithredu’r gronfa. Mae Link yn gyfrifol am sefydlu a gweithredu cyfryngau buddsoddi cyfun i’w defnyddio gan gronfeydd CPLlL yng Nghymru. I gael rhagor o wybodaeth, ddarllenwch datganiad i’r wasg Partneriaeth Pensiwn Cymru (PCP) ac ewch i’r wefan www.partneriaethpensiwncymru.org.
Gofyn am ddogfen mewn fformat hygyrch.