Os ydych chi wedi bod yn absennol o’r gwaith, am unrhyw reswm, heb gael eich talu, bydd yr absenoldebau hyn yn effeithio ar groniadau eich pensiwn. Fodd bynnag, pan fyddwch yn dychwelyd i’r gwaith bydd eich cyflogwr bob amser yn rhoi’r cyfle ichi brynu unrhyw bensiwn a gollwyd yn ôl – ar yr amod y cafodd eich absenoldeb ei awdurdodi.
Pwy sy’n talu’r costau am y pensiwn a gollwyd?
- Os byddwch yn dewis adfer y pensiwn a gollwyd o fewn 30 diwrnod o ddychwelyd i’r gwaith caiff y gost ei rhannu rhyngoch chi a’ch Cyflogwr – traean gennych chi a dwy ran o dair gan eich Cyflogwr (ac eithrio unrhyw ddiwrnodau streic)
- Os byddwch yn adfer y pensiwn a gollwyd ar ôl 30 diwrnod – chi fydd yn talu’r gost gyfan
Os na chynigiwyd ichi’r dewis i ad-dalu, cysylltwch â’ch Cyflogwr – dyma sut i gyfrifo rhagamcan y gost o brynu’r pensiwn a gollwyd .
Bydd yr absenoldebau hyn yn cael eu trin yn y modd canlynol:
Salwch – ni effeithir ar eich pensiwn hyd yn oed os ewch ar gyfnod ‘heb dalu’
Mamolaeth, Mabwysiadu neu Dadolaeth – NI effeithir ar eich pensiwn yn ystod y 39 wythnos gyntaf, hyd yn oed os ydych yn ennill llai nag yr arfer neu os ydych ar gyfnod ‘heb dalu’
Diwrnodau streic – byddant yn effeithio ar eich pensiwn, ond rhoddir ichi’r dewis i brynu’r pensiwn a gollwyd yn ôl, ond chi fydd yn talu’r HOLL gostau adfer
Gwasanaeth Rheithgor – NI fydd yn effeithio ar eich pensiwn, gan fyddwch yn cael eich talu am Wasanaeth Rheithgor, a byddwch yn parhau i dalu eich cyfraniadau pensiwn arferol
Dyletswydd yn y Lluoedd wrth Gefn – os ydych yn cyflawni gwasanaeth yn y lluoedd wrth gefn a’ch bod yn dewis aros yn y CPLlL cyfrifir eich pensiwn gan ddefnyddio eich cyflog pensiynadwy tybiedig. Mae defnyddio eich cyflog pensiynadwy tybiedig yn sicrhau y byddwch yn parhau i gronni pensiwn fel pe baech yn y gwaith yn hytrach nag ar gyfnod gwasanaeth yn y lluoedd wrth gefn. Mae angen i’ch cyflogwr ddweud wrthych ac wrth y Weinyddiaeth Amddiffyn faint y mae’n rhaid ichi a’r Weinyddiaeth Amddiffyn ei dalu.
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
Gwasanaeth Cynghori Ariannol
Gwasanaeth diduedd wedi’i greu gan y Llywodraeth i roi cyngor diragfarn am ddim. Cewch fanteisio ar gynllunwyr cyllideb gwych yn ogystal ag offer arall.
Cwestiwn?
Gofyn am ddogfen mewn fformat hygyrch.