Cyflwynwyd Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CLlL) 2014 ar 1 Ebrill 2014. Os oeddech yn aelod o CPLlL 2008 ar 31 Mawrth 2014, byddwch wedi eich trosglwyddo’n awtomatig i CPLlL 2014 ar 1 Ebrill 2014.
Mae’r buddion pensiwn y gwnaethoch eu cronni o dan y trefniadau cyflog olaf hyd at 31 Mawrth 2014, wedi eu diogelu o dan Reoliadau 2008. Bydd y buddion hyn yn parhau i gael eu cyfrifo gan ddefnyddio eich cyflog pensiynadwy cyfwerth ag amser llawn pan fyddwch yn ymddeol ( o dan ddiffiniad cyflog pensiynadwy 2008).
Diogelu Ymhellach
Bydd gennych ragor o ddiogelwch, yn yr achosion canlynol:
- roeddech yn talu i mewn i’r Cynllun ar 31 Mawrth 2012
- Roedd gennych 10 mlynedd ar ôl cyn cyrraedd eich Oedran Pensiwn Arferol ar 1 Ebrill 2012.
- Nid oedd gennych doriad datgymhwyso yn eich gwasanaeth am 5 mlynedd neu fwy
- Nid ydych chi wedi defnyddio unrhyw fuddion y CPLlL cyn cyrraedd Oedran Pensiwn Arferol ac rydych yn gadael gyda hawl uniongyrchol i gael y buddion.
Bydd gennych chi bensiwn sydd o leiaf cyfartal â’r pensiwn y byddech wedi ei gael, pe byddai’r cynllun wedi aros yr un peth ar 1 Ebrill 2014 – bydd y tîm pensiynau yn cyfrifo i wneud yn sicr eich bod yn cael y ‘fargen orau’ pan fyddwch yn ymddeol.
Dyma sut y cafodd eich buddion eu cronni cyn Ebrill 2008
Dyma sut y cafodd eich buddion eu cronni rhwng 1 Ebrill 2008 a 1 Ebrill 2014
Gallwch gymharu’r gwahaniaethau rhwng y ddau gynllun ar y Siart Cymharu (233kb PDF) hon.
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
Ewch i wefan CPLlL i gael rhagor o fanylion am eich pensiwn a defnyddio offer ar-lein i’ch helpu i gyfrifo’ch cyfraniadau pensiwn neu weld oddeutu faint fydd eich pensiwn pan fyddwch yn ymddeol.
Cwestiwn?
Gofyn am ddogfen mewn fformat hygyrch.