Buddion mewn achos Marwolaeth
Os byddwch yn marw tra eich bod yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL), telir swm crynswth fel grant marwolaeth gwerth 3 gwaith eich cyflog pensiynadwy blynyddol yn ôl y gofyniad yn eich Ffurflen Enwebu Grant Marwolaeth.
Os oes gennych gyfnod blaenorol o aelodaeth CPLlL (h.y. cyfnod a ohiriwyd), byddwn yn cyfrifo y grant marwolaeth taladwy o’r cyfnod aelodaeth cyfredol a’r cyfnod aelodaeth a ohiriwyd – a byddwn yn talu p’un bynnag yw’r swm uwch.
Bydd llenwi Ffurflen Enwebu Grant Marwolaeth yn caniatáu ichi enwebu un unigolyn neu sefydliad neu fwy, i dderbyn taliad y grant marwolaeth.
Os nad ydych wedi llenwi Ffurflen Enwebu Grant Marwolaeth, gwneir taliad i’ch Cynrychiolwyr Ystad/Personol, ond gallai gymryd amser hirach i wneud y taliad.
Byddwn bob amser yn ceisio talu eich Grant Marwolaeth i’r person(au) a enwebwyd, fodd bynnag, nid ydym wedi’n rhwymo’n gyfreithiol gan yr enwebiad hwn ac mae gan Gronfa Pensiwn Caerdydd a Bro Morgannwg ddisgresiwn absoliwt o ran sut y telir eich Grant Marwolaeth.
Cofiwch cadw gwybodaeth eich Ffurflen Enwebu grant marwolaeth yn gyfredol.