Darperir y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL) ar eich cyfer gan eich Cyflogwr, sydd hefyd yn talu mwyafrif y costau.
Bydd y gost ichi yn dibynnu ar faint yr ydych yn cael eich talu, ond bydd rhwng 5.5% a 12.5% o’ch cyflog pensiynadwy dan BRIF Ran y Cynllun. Gweler eich Cyfraniadau Cyflogal. Fodd bynnag, gall y swm y byddwch yn ei dalu fod yn llawer llai nag yr ydych yn meddwl, gan y byddwch yn derbyn gostyngiad yn y dreth ar y cyfraniadau yr ydych yn eu talu. Os ydych yn credu y gall eich cyfraniadau fod yn anghywir, cysylltwch â’ch Cyflogwr.
Bydd unrhyw waith goramser yn ôl contract neu’r tu allan i gontract yn gymwys fel cyflog pensiynadwy.
Fel aelod o CPLlL, bydd gennych ddewis i optio allan ar unrhyw adeg, fodd bynnag, nid yw hwn yn benderfyniad i’w wneud ar chwarae bach.
Neu, fel arall, gallech haneru cyfradd eich cyfraniadau arferol, sy’n golygu y byddwch yn cronni hanner y buddion pensiwn yn y cynllun. Gall fod yn well na gorfod optio allan o’r cynllun yn llwyr. Enw adran hon y Cynllun yw’r cynllun 50:50, os dymunwch ymuno ag adran hon y cynllun dros dro llenwch Ffurflen Dethol 50:50 (DOC) .
Os ydych chi’n rhan o adran 50:50 y Cynllun, ac os hoffech symud yn ôl i gynllun llawn CPLlL, llenwch Ffurflen Ailymuno (DOC) .
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
Ewch i wefan CPLlL i gael rhagor o fanylion am eich pensiwn a defnyddio offer ar-lein i’ch helpu i gyfrifo’ch cyfraniadau pensiwn neu weld oddeutu faint fydd eich pensiwn pan fyddwch yn ymddeol.
Gwasanaeth Cynghori ar Bensiwn
Gwefan y Llywodraeth yn cynnig canllawiau ac arweiniad diduedd am ddim ar bensiynau.
Beth sydd ar gael
Gwybodaeth ac offer ar-lein, gwasanaeth sgwrsio ar-lein, llinell gymorth ffôn, apwyntiadau personol
Cwestiwn?
Gofyn am ddogfen mewn fformat hygyrch.