Os ydych yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL) ac rydych yn gadael eich swydd, neu os ydych yn dewis optio allan o’r cynllun pensiwn cyn ichi ymddeol, mae sawl dewis ar gael ichi.
Os yw eich aelodaeth yn llai na 2 flynedd ar y cyfan, ac nid oes gennych hawliau CPLlL blaenorol, ac nad ydych wedi trosglwyddo hawliau pensiwn blaenorol i’r cynllun hwn ychwaith, cewch:
- Ad-daliad am eich cyfraniadau, heb unrhyw ddidyniadau treth a’r gost am eich ail-gynnwys yn Ail Gynllun Pensiwn y Wladwriaeth (S2P)
- Trosglwyddo eich buddion mewn trefniant newydd, megis cynllun eich Cyflogwr newydd, neu drefniant pensiwn personol.
Os yw eich aelodaeth yn fwy na 2 flynedd ar y cyfan, neu rydych wedi trosglwyddo hawliau pensiwn blaenorol i’r cynllun hwn, cewch:
- Adael eich buddion yn y Gronfa nes y byddwch yn ymddeol – gelwir hwn yn Fuddion a Ohiriwyd
- Trosglwyddo eich buddion mewn trefniant newydd, megis cynllun eich Cyflogwr newydd, neu drefniant pensiwn personol
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y dewisiadau sydd ar gael ichi fel aelod gohiriedig, ewch i adran y wefan hon sy’n ymwneud â Gohirio Buddion.
Os ydych yn dymuno optio allan o’r CPLlL, budd angen ichi lenwi ffurflen optio allan (PDF) a’i dychwelyd i’ch Cyflogwr.
Gwasanaeth Cynghori Ariannol
Gwasanaeth diduedd wedi’i greu gan y Llywodraeth i roi cyngor diragfarn am ddim. Cewch fanteisio ar gynllunwyr cyllideb gwych yn ogystal ag offer arall.
Budd-daliadau’r wladwriaeth
Dewch o hyd i fanylion am fudd-daliadau a phensiwn y wladwriaeth, a sut i gael rhagolwg o bensiwn y wladwriaeth.
Cwestiwn?
Gofyn am ddogfen mewn fformat hygyrch.