Cynyddu eich Buddion
Fel Aelod o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL), mae gennych y cyfle i wneud cyfraniadau ychwanegol i ategu eich buddion ymddeol.
Mae’r CPLlL yn cynnig dwy ffordd effeithlon o ran trethu i wneud hyn
Mae Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol (CGY) yn ffordd effeithlon o ran treth i gynilo ar gyfer eich ymddeoliad, fel aelod o CPLlL.
Caiff yr holl gyfraniadau CGY eu didynnu o’ch cyflog cyn ichi dalu treth incwm ac Yswiriant Gwladol, sy’n golygu y byddwch yn cael gostyngiad yn y dreth ar y gyfradd briodol. Mae’r cyfraniadau CGY yn cael eu buddsoddi mewn cronfa o’ch dewis, gyda Prudential .
Gallwch gyfrannu hyd at 100% o’ch cyflog misol (ar ôl i’r holl ddidyniadau statudol wedi eu gwneud) i’ch cronfa CGY. Gallwch newid lefel eich cyfraniad CGY a’ch dewis o gronfa fuddsoddi cynifer o weithiau ag y dymunech.
Pan fyddwch yn ymddeol, gallwch gymryd rhywfaint o’ch cronfa CGY neu’r swm cyfan fel swm crynswth di-dreth (yn amodol ar gyfyngiadau CThEM). Gallwch ddod o hyd i ffyrdd eraill o ddefnyddio eich cronfa Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol ar wefan y CPLlL
Beth os dechreuais dalu i mewn i CGY ar neu ar ôl 31 Mawrth 2014?
Cyn 31 Mawrth 2014, roedd lefel eich cyfraniad wedi’i chyfyngu ar 50% o’ch cyflog misol. Fodd bynnag, gallwch nawr gyfrannu hyd at 100% o’ch cyflog misol (ar ôl i’r holl ddidyniadau statudol wedi eu gwneud) i’ch cronfa CGY o 14 Mai 2018.
Os ydych yn aelod gweithredol o’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL), gallwch brynu swm ychwanegol o bensiwn blynyddol. Ychwanegir y pensiwn ychwanegol at eich ‘pensiwn sylfaenol’ a’i dalu bob blwyddyn drwy gydol eich ymddeoliad. Mae hwn yn cael ei alw yn gontract Cyfraniadau Pensiwn Ychwanegol (CPY).
Uchafswm y pensiwn blynyddol ychwanegol y ceir ei brynu yw £7,579.
Sut caiff y cyfraniadau ychwanegol eu casglu?
Didynnir y cyfraniadau pensiwn ychwanegol o’ch cyflog bob mis. Gallwch ddewis pa mor hir fydd eich contract, ond mae’n rhaid iddo fod mewn ‘blynyddoedd cyflawn’ ac mae’n rhaid i’r contract ddod i ben cyn ichi gyrraedd eich Oedran Pensiwn Arferol. Cewch hefyd dalu am y pensiwn ychwanegol fel swm crynswth un tro.
Gallwch atal eich cyfraniadau CPY unrhyw bryd yn ystod y contract. Fodd bynnag, cewch gredyd o’r ganran bensiwn ychwanegol yr ydych chi wedi talu amdano.
Sut byddaf yn cyfrifo rhagamcan o’r gost berthnasol?
Seilir y gost o brynu’r pensiwn ychwanegol ar eich oedran, eich rhywedd a sut yr ydych yn talu, er enghraifft fel swm crynswth neu drwy randaliadau – dyma sut i gael rhagamcan y gost o brynu pensiwn ychwanegol .
Gallech hefyd gynyddu eich buddion pensiwn gyda Phensiwn Personol, Pensiwn Cyfranddeiliaid neu drefniadau Cyfraniad Gwirfoddol Ychwanegol Annibynnol – mae’r rhain ar gael drwy gwmnïau preifat.
A oes unrhyw gyfyngiadau ar gyfraniadau ychwanegol?
Mae rheolau Cyllid A Thollau Ei Mawrhydi (CThEM) yn caniatáu ichi dalu cymaint â 100% o’ch enillion gyda gostyngiad llawn yn y dreth er mwyn sicrhau buddion pensiwn o fewn cyfyngiadau rhagnodedig. Mae eich cyfraniadau CPLlL arferol rhwng 5.5% a 12.5%, felly mae canran fawr o’ch enillion ar gael i’w buddsoddi mewn cyfraniadau ychwanegol.
Fodd bynnag, mae Cyfyngiad CThEM ar Lwfans Blynyddol yn nodi y gall uchafswm eich buddion pensiwn gynyddu bob blwyddyn dreth. Mae’r cyfyngiad ar hyn o bryd ar £40,000.
Ni allwn roi unrhyw gymorth ariannol ichi ynglŷn â’r dewisiadau hyn, ond, gallwch geisio Cyngor Ariannol Annibynnol i’ch helpu – ewch i unbiased
CThEM
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am eich treth bersonol neu’ch Yswiriant Gwladol sy’n berthnasol i’ch Cronfa Bensiwn Caerdydd a’r Fro, gallwch ddod o hyd i wybodaeth yma.
Gwasanaeth Cynghori ar Bensiwn
Gwefan y Llywodraeth yn cynnig canllawiau ac arweiniad diduedd am ddim ar bensiynau
Beth sydd ar gael
Gwybodaeth ac offer ar-lein, gwasanaeth sgwrsio ar-lein, llinell gymorth ffôn, apwyntiadau personol
A oes angen Ymgynghorwr Ariannol Annibynnol arnoch?
Cysylltwch ag Unbiased
Gofyn am ddogfen mewn fformat hygyrch.