Gallwch ddewis trosglwyddo buddion eich pensiwn blaenorol i’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL) o:
- Gronfa CPLlL flaenorol
- cynllun pensiwn gan Gyflogwr blaenorol (gan gynnwys cynlluniau tramor)
- cynllun pensiwn hunangyflogedig
- polisi ‘prynu allan’
- cynllun pensiwn personol
- Cynllun pensiwn cofrestredig tramor
- cynllun pensiwn cyfranddeiliaid
- Trefniadau Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol
Nid yw’n bosibl trosglwyddo credyd pensiwn i CPLlL – credyd pensiwn yw rhan o fudd pensiwn o gyn-briod neu bartner sifil, yn dilyn ysgariad.
Mae’n rhaid i’ch cais am drosglwyddo unrhyw fudd-daliadau pensiwn blaenorol i’r CPLlL gael ei dderbyn o fewn 12 mis o ymuno â’r Cynllun. I wneud cais am drosglwyddo cynllun, bydd angen ichi lenwi’r Ffurflen Awdurdodi Trosglwyddiad.
Ni fydd eich cais i ystyried trosglwyddo cynllun pensiwn yn eich rhwymo nes y byddwch yn cael yr holl ffigurau a llofnodi’r ffurflenni i gadarnhau eich bod yn dymuno bwrw ymlaen i drosglwyddo’r cynllun.
Dylech ystyried yn ofalus cyn trosglwyddo eich buddion pensiwn i CPLlL, ac mae angen deall a fydd y dewis hwn o fantais ichi. Efallai y byddwch yn dymuno cael Cyngor Ariannol Annibynnol cyn gwneud y penderfyniad hwn.
Gwasanaeth Tracio Pensiwn
Traciwch bensiynau blaenorol sydd gennych gyda chyflogwyr blaenorol gan ddefnyddio Gwasanaeth Tracio Pensiwn y Llywodraeth .
Gwasanaeth Cynghori ar Bensiwn
Gwefan y Llywodraeth yn cynnig canllawiau ac arweiniad diduedd am ddim ar bensiynau
Beth sydd ar gael
Gwybodaeth ac offer ar-lein, gwasanaeth sgwrsio ar-lein, llinell gymorth ffôn, apwyntiadau personol
Unbiased
Dewch o hyd i ymgynghorwyr ariannol annibynnol
Gofyn am ddogfen mewn fformat hygyrch.