Os byddwch yn ysgaru neu os caiff eich partneriaeth sifil ei diddymu tra eich bod yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL), ni fydd eich cyn-briod/partner sifil yn cael hawl i unrhyw fuddion goroeswr mwyach, pe byddech yn marw cyn hwythau. Fodd bynnag, NI effeithir ar unrhyw bensiwn taladwy i blant sy’n gymwys gan eich ysgariad neu eich diddymiad.
Pa wybodaeth sydd ei hangen arnaf?
Os ydych yn mynd drwy broses o ysgaru, gwahanu’n farnwrol neu ddirymu priodas/partneriaeth sifil, diddymu neu wahanu, bydd angen ichi gyflwyno Gwerth Trosglwyddo sy’n Gyfwerth ag Arian Parod (GTGAP) i’r llysoedd. Gwarentir y GTGAP am dri mis.
Mae gan bob aelod yr hawl i gael un amcangyfrif GTGAP am ddim bob 12 mis. Caiff unrhyw gostau eraill sy’n berthnasol i sicrhau gwybodaeth ychwanegol neu gydymffurfio â gorchymyn llys eu hadennill oddi wrthych a/neu eich cyn-briod / cyn-bartner sifil. Bydd y costau yn unol â Ffioedd Cronfa Pensiwn Caerdydd a Bro Morgannwg (32kb PDF) .
Os hoffech fwy o wybodaeth am ysgaru, ewch i: Frequently asked questions :: LGPS (lgpsmember.org)
Cais am Werth Trosglwyddo sy’n Gyfwerth ag Arian Parod (GTGAP)
sgrifennwch atom ni yn:
Y Tîm Pensiynau
Ystafell 252
Neuadd y Sir
Glanfa’r Iwerydd
Caerdydd
CF10 4UW
Gwasanaeth Cynghori Ariannol
Gwasanaeth diduedd wedi’i greu gan y Llywodraeth i roi cyngor diragfarn am ddim. Cewch fanteisio ar gynllunwyr cyllideb gwych yn ogystal ag offer arall.
State Pension
Find out if you are eligible to a State Pension, what you’ll get and how its calculated, plus lots more information.
Cwestiwn?
Gofyn am ddogfen mewn fformat hygyrch.