Mae Cronfa Bensiwn Caerdydd a Bro Morgannwg yn rhan o’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol cenedlaethol. Gall staff Cyngor Dinas Caerdydd, Cyngor Bro Morgannwg, Prifysgol Fetropolitan Caerdydd, Coleg Caerdydd a’r Fro a nifer o gyrff gwasanaethau cyhoeddus eraill nad ydynt yn addysgu ymaelodi.
Gweinyddir y Gronfa gan Adran Bensiynau Cyngor Dinas Caerdydd.
Os oes gennych gwestiwn am eich pensiwn neu os hoffech ragor o wybodaeth am y cynllun, gall yr Adran Bensiynau eich helpu. Nid ydynt yn gallu ateb ymholiadau ynghylch y Cynllun Pensiwn Athrawon neu bensiwn y wladwriaeth.
Mae rhagor o wybodaeth am y cynllun pensiwn llywodraeth leol ar gael ar wefan y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol .
Gofyn am ddogfen mewn fformat hygyrch.