Cronfa Ddata Yswiriant Gwladol
Mae Cronfa Bensiwn Caerdydd a Bro Morgannwg yn cymryd rhan mewn trefniant rhannu data gyda Chronfeydd Pensiwn CPLlL yng Nghymru, Lloegr a’r Alban. Rydym yn gwneud hyn fel y gallwn gydymffurfio â gofynion cyfreithiol sy’n gynwysedig yn rheoliadau llywodraethu’r CPLlL.
Mae darpariaethau o fewn Rheoliadau CPLlL 2013 yn golygu, os bydd aelod o’r CPLlL yn marw, bod angen i’r Gronfa wybod a oes gan yr aelod fuddion CPLlL eraill yn rhywle arall yn y DU, fel y gall y buddion marwolaeth cywir gael eu cyfrifo a’u talu i ddibynyddion yr aelod ymadawedig.
Gan y caiff y CPLlL ei weinyddu’n lleol, mae gan bob Cronfa Bensiwn ei gofnodion buddion ei hun, sy’n ei wneud yn anodd gweld a oes gan aelod fuddion CPLlL eraill yn rhywle arall. Mae’r Gronfa Ddata Genedlaethol yn galluogi Cronfeydd i wirio a oes gan eu haelodau fuddion pensiynau gyda Chronfeydd Pensiynau CPLlL eraill.
Pa ddata a gaiff ei rannu?
Ar gyfer pob aelod o’r CPLlL, mae’r Gronfa Ddata yn cynnwys cofnod byr sy’n cynnwys:
Rhif Yswiriant Gwladol yr unigolyn
Rhif i adnabod statws aelodaeth yr unigolyn
Y flwyddyn y newidiodd y statws aelodaeth diwethaf
Rhif pedwar digid sy’n dangos ymhle y delir cofnod aelod y gronfa bensiwn CPLlL
Pwy sy’n cynnal y Gronfa Ddata?
Cynhelir y Gronfa Ddata yn Awdurdod Pensiynau De Swydd Efrog, sy’n gronfa ddata CPLlL.
Sut caiff y data a ddelir ar y Gronfa Ddata ei brosesu?
Caiff y data a ddelir ar y Gronfa Ddata ei brosesu yn unol â Deddf Diogelu Data 2018 a deddfwriaeth berthnasol arall.
A gaiff y Gronfa Ddata ei defnyddio at unrhyw ddiben arall?
Caiff detholiad o’r wybodaeth aelodaeth a ddelir ar y Gronfa Ddata ei rannu’n achlysurol gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP), fel y gall y CPLlL ymuno â’r gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith. Mae Dywedwch Wrthym Unwaith yn wasanaeth a gynigir yn y rhan fwyaf o rannau’r wlad pan fydd unigolyn yn cofrestru marwolaeth. Pan fydd y CPLlL yn ymuno â Dywedwch Wrthym Unwaith a chofnodir marwolaeth aelod o’r CPLlL, bydd systemau’r DWP yn sicrhau y rhoddir gwybod i’r gronfa bensiwn CPLlL am y farwolaeth, sy’n golygu y gellir prosesu cofnodion yr aelod ynghynt ac yn symlach.
Gyda phwy y rhennir y data?
Cronfeydd pensiwn CPLlL eraill. Mae’r rhain i gyd yn gyrff cyhoeddus a enwir mewn deddfwriaeth fel awdurdodau gweinyddu’r CPLlL.
Ar gyfer y gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith, caiff detholiad o’r Gronfa Data sy’n cynnwys Rhifau YG unigolion ei rannu’n ddiogel gyda’r DWP bob mis fel y gallant gadw cofnod cyfoes o aelodau y CPLlL.
Am ba mor hir yr ymgymerir â’r gwaith o rannu data?
Cyhyd â bod
a) y gofynion rheoleiddiol perthnasol yn parhau, ac
b) mae’r CPLlL yn cymryd rhan yn y gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith.
Os digwydd bod dim un o’r uchod yn berthnasol, bydd y gwaith o rannu data yn dod i ben.
A gaf i dynnu allan o’r gwaith hwn o rannu data?
Na chewch. Gan fod y gwaith hwn o rannu data yn cael ei wneud yn rhannol er mwyn cydymffurfio â gofyniad cyfreithiol, nid yw’n bosibl i aelodau’r cynllun dynnu’n ôl o’r gwaith o rannu data.