Datrys Anghydfodau Mewnol
Os oes gennych gŵyn neu anghydfod, yn erbyn Cronfa Bensiwn Caerdydd a Bro Morgannwg, neu yn erbyn eich Cyflogwr, mae gweithdrefn ar waith i’ch helpu i ddatrys y sefyllfa o’r enw Gweithdrefn Datrys Anghydfodau Mewnol (GDAM).
Byddai Cronfa Bensiwn Caerdydd a Bro Morgannwg yn croesawu’r cyfle i geisio datrys y mater yn anffurfiol gyda chi cyn dechrau gweithdrefn GDAM. Gweler ein manylion cyswllt am ffyrdd o gysylltu â ni.
Fodd bynnag, os nad yw eich cwyn wedi’i ddatrys yn foddhaol yn eich barn chi, neu os na allwch ddatrys eich gwahaniaethau gyda Chronfa Bensiwn Caerdydd a Bro Morgannwg, yna llenwch Gweithdrefn Datrys Anghydfod Mewnol i ddechrau’r weithdrefn ac i gael rhagor o wybodaeth.
Os oes gennych gŵyn neu anghydfod ynglŷn â’ch trefniadau pensiwn yn y gweithle neu bensiwn personol, dylech gysylltu â’r Ombwdsmon Pensiynau
rhif ffôn 0800 917 4487
Os oes gennych unrhyw geisiadau am wybodaeth gyffredinol ar gyfer arweiniad o ran eich darparwr pensiynau, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau (GCP) , – rhif ffôn 0800 011 3797 a gallant eich helpu. Maent yn cynnig cyngor diduedd am ddim a byddant yn eich cefnogi drwy’r broses gwneud cwynion.