Cyngor Caerdydd yw’r awdurdod gweinyddu Cronfa Bensiwn Caerdydd a Bro Morgannwg, ac mae’n ofynnol iddynt yn ôl y gyfraith amddiffyn y cronfeydd pensiwn y mae’n eu gweinyddu. Gall yr awdurdod rannu gwybodaeth â chyrff eraill sy’n gyfrifol am archwilio neu weinyddu arian cyhoeddus, er mwyn atal twyll.
Yr Archwilydd Cyffredinol sy’n gyfrifol am gynnal ymarferion paru data yn rhan o’r pwerau a roddir iddo o dan Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004.
Mae gwaith paru data yn cynnwys cymharu cofnodion cyfrifiadurol (data personol fel arfer) a gedwir gan un corff yn erbyn cofnodion cyfrifiadurol eraill sydd gan yr un corff neu gorff arall i weld pa mor debyg i’w gilydd y maen nhw. Mae gwaith paru data cyfrifiadurol yn ei wneud yn bosibl i ganfod hawliadau a thaliadau twyllodrus.
Mae’r Archwilydd Cyffredinol yn ei wneud yn ofynnol i’r Awdurdod rannu ei holl wybodaeth i alluogi’r archwilwyr i gyflawni ymarferion paru data – bydd yr ymarferion hyn yn helpu i atal a chanfod twyll. Ceir rhagor o wybodaeth am yr hyn sy’n ofynnol inni ei rannu ar wefan Swyddfa Archwilio Cymru.
Mae’r Archwilydd Cyffredinol yn defnyddio’r data mewn ymarfer paru data gydag awdurdod statudol dan ei bwerau yn Rhan 3A Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004, nid oes angen iddo gael caniatâd yr unigolion dan sylw dan Ddeddf Diogelu Data 1998.
Mae gwaith paru data gan yr Archwilydd Cyffredinol yn amodol ar God Ymarfer. Gwneir hyn i helpu’r holl gyrff sy’n ymwneud â pharu data i gydymffurfio â’r gyfraith ac ag arfer da, gan gynnwys cynnal a chadw data yn ddiogel.
Swyddfa Archwilio Cymru
Corff gwarchod y sector cyhoeddus yng Nghymru.
Ewch i wefan Swyddfa Archwilio Cymru
Gofyn am ddogfen mewn fformat hygyrch.