Sgamiau pensiwn
Mae sgamiau pensiwn ar gynnydd ac mae’r dulliau y mae sgamwyr yn eu defnyddio yn mynd yn fwy anodd eu hadnabod. Yn aml gallant ddefnyddio gwefannau neu dystebau credadwy i’ch twyllo i gredu eu bod yn gyfreithlon.
Gall sgamiau pensiwn fod ar sawl ffurf, a gallant ymwneud â:
- trosglwyddiadau pensiwn,
- polisïau yswiriant, neu
- fuddsoddiadau risg uchel (er enghraifft, crypto-asedau).
Gall unrhyw un ddioddef sgam, ac os bydd yn digwydd i chi, mae’n annhebygol y byddwch yn cael unrhyw arian yr ydych wedi’i golli yn ôl.
Gallwch gael cyngor ynghylch sut i amddiffyn eich hun rhag sgamwyr, a beth i’w wneud os ydych yn amau eich bod yn cael eich twyllo.