Cefndir Cyffredinol o’i Yrfa
Ar ôl hyfforddi yn gyfreithiwr yn Llundain a gweithio yno am bum mlynedd, symudais i Gaerdydd ym 1984 i weithio i Morgan Bruce, y rhagflaenydd i gwmni Blake Morgan. Des i’n bartner ym 1985 yn Adran Fasnachol y Cwmni. Yn ystod y 32 mlynedd a dreuliais gyda’r Cwmni, roedd gennyf amrywiaeth o rolau rheoli hefyd o fewn y practis, gan gynnwys arwain adrannau ac ymgymerais â sawl rôl wahanol ar fyrddau. Am y tair blynedd ar ddeg ddiwethaf yn fy swydd fel cyfreithiwr, roeddwn i’n arbenigo ym maes cyfraith pensiynau ac yn cynghori ymddiriedolwyr a chyflogwyr yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat.
Nodir manylion fy mhenodiadau ymddiriedolaeth ac ar fyrddau isod. Yn ogystal â fy ngyrfa broffesiynol fel cyfreithiwr ac yna fel ymddiriedolwr pensiynau, mae gen i nifer o benodiadau allanol hefyd yn y Sector Elusennau.
Penodiadau Pensiynau’r Sector Cyhoeddus
Mawrth 2015: Bwrdd Ymgynghori Cynllun Pensiwn Diffoddwyr Tân Cymru – Cadeirydd Annibynnol
(Ail-benodwyd ym mis Mawrth 2018 am gyfnod o dair blynedd arall) Gwnaed y penodiad gan Lywodraeth Cymru
Mehefin 2015: Bwrdd Pensiynau Lleol Caerdydd a Bro Morgannwg – Cadeirydd Annibynnol
(Ymestynnwyd y penodiad ym mis Mehefin 2018 am flwyddyn arall) Gwnaed y penodiad gan Gyngor Sir Caerdydd
Penodiadau Pensiynau’r Sector Preifat
Hydref 2009: Cynllun Pensiwn Michael Weinig (DU) 1990 – Cadeirydd Ymddiriedolwyr Annibynnol
Medi 2016: Cynllun Pensiwn Cymdeithas Adeiladu Sir Fynwy – Cadeirydd Ymddiriedolwyr Annibynnol
Penodiadau Ymddiriedolwyr Elusen
Ionawr 2017: Amgueddfa Cymru – Ymddiriedolwr
Ymddiriedolwr Cynllun Pensiwn yr Amgueddfa Genedlaethol ac Aelod o’r Pwyllgor Archwilio
Tachwedd 2013: Archesgobaeth Ymddiriedolwr Caerdydd a Henffordd
Hydref 1999: Coleg Sant Ioan Cyfyngedig (Ysgol Annibynnol) – Ymddiriedolwr
Penodiadau Gyrfaol
1985 2016 : Partner – Blake Morgan LLP (Morgan Cole LLP yn flaenorol)
1984-1985 : Cyfreithiwr – Morgan Bruce & Nicholas
1982-1983 : Cyfreithiwr – Norton Rose, Llundain
1979-1982 : Hyfforddai a Chyfreithiwr – Simmons & Simmons, Llundain
Addysg
1977-1981 : Rhoddwyd ar Gofrestr y Gymdeithas Gyfreithiol fel Cyfreithiwr
1974-1977 : Prifysgol Durham – Gradd Anrhydedd mewn Economeg (2:1)
Personol
Rwy’n briod â thri phlentyn sydd bellach yn oedolion. Rwy’n byw yng Ngwenfô ym Mro Morgannwg ers 1984.