Cyflwynodd y Llywodraeth gynllun Cofrestru Awtomatig ym mis Hydref 2012.
Dan gyfraith y cynllun Cofrestru Awtomatig, rhaid i bob Cyflogwr gynnig rhyw fath o ddarpariaeth bensiwn i gyflogeion cymwys.
Cyflwynodd y Llywodraeth gynllun diofyn statudol hefyd o’r enw Ymddiriedolaeth Cynilion Cyflogaeth Wladol (NEST) i gefnogi’r broses Cofrestru Awtomatig.
Mae angen i Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL) gydymffurfio â’r rheoliadau Cofrestru Awtomatig.
Byddwch yn ymwybodol o’r dyddiad llwyfannu, a phryd fydd eich dyddiad ail-gofrestru. Mae hwn yn ofyniad cyfreithiol ar Gyflogwyr.
Gellir dod o hyd i ganllawiau hanfodol ynglŷn ag ail-gofrestru ar wefan y Rheoleiddiwr Pensiynau .
Gwasanaeth Cynghori ar Bensiwn
Gwefan y Llywodraeth yn cynnig canllawiau ac arweiniad diduedd am ddim ar bensiynau
Beth sydd ar gael
Gwybodaeth ac offer ar-lein, gwasanaeth sgwrsio ar-lein, llinell gymorth ffôn, apwyntiadau personol
Cwestiwn?
Gofyn am ddogfen mewn fformat hygyrch.