Mae Cronfa Bensiwn Caerdydd a Bro Morgannwg yn cael ei phrisio bob tair blynedd. Gall Actwari cymwysedig gyrchu cyfrifon, asedau a rhwymedigaethau’r Gronfa er mwyn sicrhau y gellir talu’r rhwymedigaethau presennol a’r rhai yn y dyfodol. Caiff eich cyfradd Cyflogwr am y tair blynedd nesaf ei gosod ar y dyddiad prisio.
Bydd y Prisiad nesaf yn cael ei gynnal ar 31 Mawrth 2019, a bydd unrhyw newidiadau o ran cyfraniadau yn sgil y prisiad hwn yn dod i rym ar 01 Ebrill 2020.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y Prisiad neu’r modd y caiff eich Cyfradd / taliad Diffyg o ran eich Gwasanaeth Blaenorol (PSD) ei gyfrifo, cysylltwch â ni.
Gofyn am ddogfen mewn fformat hygyrch.