Mae’r Gymdeithas Llywodraeth Leol (CLlL) yn cynnig gwybodaeth am bensiynau Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL).
Mae ei gwefan yn cynnwys yr holl wybodaeth dechnegol a chyfreithiol am CPLlL 2014 i Gyflogwyr ac Awdurdodau Gweinyddu. Mae’r wefan hefyd yn cynnwys Rheoliadau’r Cynllun a’r holl ganllawiau atodol.
Ewch i wefan y CPLlL i ddarllen y wybodaeth hon.
Mae’r CLlL hefyd yn cyhoeddi Bwletinau Newyddion a Chylchlythyrau i roi gwybod am unrhyw newidiadau i’r rheoliadau ac i rannu canllawiau. Gallwch ddarllen y wybodaeth ddiweddaraf ar y wefan .
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn ag unrhyw wybodaeth ar wefan Rheoliadau’r Gymdeithas Llywodraeth Leol, cysylltwch â ni.
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
Ewch i wefan CPLlL i gael rhagor o fanylion am eich pensiwn a defnyddio offer ar-lein i’ch helpu i gyfrifo’ch cyfraniadau pensiwn neu weld oddeutu faint fydd eich pensiwn pan fyddwch yn ymddeol.
Gwasanaeth Cynghori ar Bensiwn
Gwefan y Llywodraeth yn cynnig canllawiau ac arweiniad diduedd am ddim ar bensiynau
Beth sydd ar gael
Gwybodaeth ac offer ar-lein, gwasanaeth sgwrsio ar-lein, llinell gymorth ffôn, apwyntiadau personol
Cwestiwn?
Gofyn am ddogfen mewn fformat hygyrch.