Mae’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL) yn rhoi diogelwch i’ch teulu pe baech yn marw.
Bydd eich gŵr neu wraig, neu bartner sifil cofrestredig yn derbyn pensiwn blynyddol sy’n daladwy am weddill ei fywyd. Yn ogystal, bydd grant marwolaeth awtomatig yn daladwy pe baech yn marw.
Bydd llenwi Ffurflen Enwebu Grant Marwolaeth yn caniatáu i chi enwebu un unigolyn neu sefydliad neu fwy, i dderbyn taliad y grant marwolaeth.
Os nad ydych wedi llenwi Ffurflen Enwebu Grant Marwolaeth, gwneir taliad i’ch Cynrychiolwyr Ystad/Personol, ond gallai gymryd mwy o amser i wneud y taliad.
Byddwn bob amser yn ceisio talu eich Grant Marwolaeth i’r person(au) a enwebwyd, fodd bynnag, nid ydym wedi’n rhwymo’n gyfreithiol gan yr enwebiad hwn ac mae gan Gronfa Pensiwn Caerdydd a Bro Morgannwg ddisgresiwn absoliwt o ran sut y telir eich Grant Marwolaeth.
Cofiwch gadw gwybodaeth eich Ffurflen Enwebu grant marwolaeth yn gyfredol.
Am fanylion pellach ynglŷn â’r budd-daliadau pensiwn sy’n daladwy, gweler Canllawiau Cynghorwyr (3mb PDF) .
Gwasanaeth Cynghori Ariannol
Gwasanaeth diduedd wedi’i greu gan y Llywodraeth i roi cyngor diragfarn am ddim. Cewch fanteisio ar gynllunwyr cyllideb gwych yn ogystal ag offer arall.
Gwasanaeth Cynghori ar Bensiwn
Gwefan y Llywodraeth yn cynnig canllawiau ac arweiniad diduedd am ddim ar bensiynau.
Beth sydd ar gael
Gwybodaeth ac offer ar-lein, gwasanaeth sgwrsio ar-lein, llinell gymorth ffôn, apwyntiadau personol
Cwestiwn?
Gofyn am ddogfen mewn fformat hygyrch.