Mae eich cyfraniad pensiwn yn 6% o’r cyflog rydych yn ei dderbyn. Gan fod y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL) wedi’i osod gan Statud, mae talu’r budd-daliadau wedi’i warantu gan gyfraith.
Byddwch yn derbyn gostyngiad treth ar y cyfraniadau cynllun pensiwn rydych yn eu talu – bydd y rhain yn cael eu tynnu o’ch lwfans cyn talu treth.
Yna mae’r Cyngor yn talu gweddill y gost o roi’r budd-daliadau cynllun pensiwn hyn i chi, ar ôl ystyried enillion ar fuddsoddiad. Caiff cyfraniadau’r pensiwn eu hadolygu gan Actwari Annibynnol bob tair blynedd, sy’n cyfrifo faint y dylai’r Cyngor gyfrannu at y cynllun.
Gwasanaeth Cynghori Ariannol
Gwasanaeth diduedd wedi’i greu gan y Llywodraeth i roi cyngor diragfarn am ddim. Cewch fanteisio ar gynllunwyr cyllideb gwych yn ogystal ag offer arall.
Cwestiwn?
Gofyn am ddogfen mewn fformat hygyrch.