Mae gan bob Cronfa Pensiwn Llywodraeth Leol gynllun Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol (CGY) mewnol. Prudential yw darparwyr CGY Cronfa Bensiwn Caerdydd a Bro Morgannwg. Wrth benderfynu talu CGYau, caiff yr arian ei dalu’n uniongyrchol o’ch cyflog, felly byddwch yn derbyn rhyddhad treth incwm ac yswiriant gwladol. Caiff eich CGY eu buddsoddi bob mis tan i chi ymddeol. Ar adeg ymddeol, gallwch ddewis trosi eich cronfa CGY naill ai:
- yn bensiwn ychwanegol
neu’n
- gyfandaliad di-dreth – yn amodol ar gyfyngiadau CThEM
neu’n
- gyfuniad o’r ddau
Ar ôl i’r holl ddidyniadau statudol gael eu gwneud, gallwch gyfrannu hyd at 100% o’ch lwfans misol i’ch cronfa CGY.
Gallwch addasu cyfradd eich cyfraniadau hefyd a’ch dewis o gronfa buddsoddi cymaint ag y mynnoch. I wneud y newidiadau hyn, ffoniwch Prudential ar 0345 600 0346 rhwng 8.30am a 6pm, ddydd Llun i ddydd Gwener.
Beth os dechreuais dalu CGYau ar neu cyn 31 Mawrth 2014?
Ni all eich cyfraniadau fod yn fwy na 50% o’ch cyflog misol, a hynny ar ôl i’r holl ddidyniadau statudol gael eu gwneud.
Am ragor o wybodaeth gallwch fynd i wefan Prudential neu eu ffonio ar:
- 0800 032 6674 – i drafod dechrau talu CGYau
- 0345 600 0343 – am bob ymholiad cyffredinol, megis cynyddu neu ostwng eich cyfraniadau
CThEM
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am eich treth bersonol neu’ch Yswiriant Gwladol mewn perthynas â’ch pensiwn, gallwch ddod o hyd i wybodaeth yma.
Gwasanaeth Cynghori ar Bensiwn
Gwefan y Llywodraeth yn cynnig canllawiau ac arweiniad diduedd am ddim ar bensiynau.
Beth sydd ar gael
Gwybodaeth ac offer ar-lein, gwasanaeth sgwrsio ar-lein, llinell gymorth ffôn, apwyntiadau personol
A oes angen Ymgynghorwr Ariannol Annibynnol arnoch?
Cysylltwch ag Unbiased
Gofyn am ddogfen mewn fformat hygyrch.