Gallwch adael Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL) ar unrhyw adeg drwy gwblhau ffurflen optio allan (PDF) .
Ar ôl optio allan o’r CPLlL y tro cyntaf, bydd modd i chi ailymuno ar unrhyw adeg cyhyd â’ch bod yn dal i fod yn Gynghorydd cymwys.
Os byddwch yn optio allan mwy nag unwaith, bydd modd i chi ailymuno ar ddisgresiwn y Cyngor yn unig. Fodd bynnag, os byddwch yn dod yn Gynghorydd ar Gyngor newydd, bydd gennych 3 mis i ailymuno â’r Cynllun Pensiwn.
Wrth optio allan o’r Cynllun Pensiwn cyn ymddeol, mae sawl dewis ar gael i chi.
Os ydych wedi bod yn aelod o’r cynllun am lai na 3 mis, mae’n bosibl y byddech yn gymwys i gael ad-daliad ar eich cyfraniadau ar ôl tynnu unrhyw ddidyniadau am dreth.
Nid oes rhaid i chi benderfynu beth i’w wneud â’ch cyfraniadau pensiwn ar unwaith, gallwch aros tan i chi ymuno â Chronfa Pensiwn Llywodraeth Leol fel aelod Cynghorydd eto neu ar unrhyw adeg pan fyddwch yn penderfynu eich bod am gael ad-daliad o’ch cyfraniadau.
Os ydych yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL) am 3 mis neu fwy, bydd eich budd-daliadau pensiwn yn cael eu cyfrifo a’u cadw yn y Gronfa. Caiff hyn ei alw’n Budd-daliadau wedi’u Gohirio.
Bydd eich pensiwn yn daladwy yn 65 oed neu hwyrach os ydych yn dewis gwneud hynny, neu gallwch benderfynu trosglwyddo eich pensiwn wedi’i ohirio i gynllun pensiwn arall. Os ewch yn rhy sâl i barhau i weithio, gall eich pensiwn gael ei dalu ar unrhyw oedran heb ostyngiad am dalu’n gynnar.
Gallwch ymgeisio am ymddeoliad cynnal rhwng 50 a 55 oed gyda chaniatâd eich Cyngor, ond bydd rhaid talu tâl treth. Gallwch ymddeol o 55 oed ymlaen heb ganiatâd y Cyngor.
Pan fyddwch yn ymddeol yn gynnar bydd eich pensiwn yn cael ei leihau am bob blwyddyn y telir eich pensiwn cyn i chi droi’n 65 oed. Fodd bynnag, os ymunoch â’r CPLlL cyn 1 Hydref 2006 ac rydych yn aelod a ddiogelir, gallai rhywfaint o’ch budd-daliadau, neu’ch holl fudd-daliadau gael eu diogelu rhag y gostyngiad. Mae gan eich Cyngor blaenorol ddisgresiwn i ddiystyru unrhyw ostyngiadau ar sail dosturiol.
Hefyd, gallwch ddewis trosglwyddo eich pensiwn i gynllun pensiwn tramor neu drefniant sy’n bodloni amodau Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi.
Trosglwyddo eich Budd-daliadau
Wrth adael y Cynllun mwy na blwyddyn cyn troi’n 65 oed, gallech drosglwyddo gwerth eich budd-daliadau pensiwn sy’n cyfateb i arian parod i gynllun pensiwn galwedigaethol arall, cyhyd â’i fod yn barod i wneud hynny ac yn gallu ei dderbyn, i gynllun pensiwn personol, i bolisi yswiriant prynu i adael neu gynllun pensiwn cyfranddeiliaid (ond nid CPLlL yng Nghymru neu Loegr oni bai eich bod yn cymryd rhan yn yr un CPLlL eto fel Aelod y Cyngor).
O fewn y rheolau a gyflwynwyd dan Ddeddf Pensiynau 1995, caiff unrhyw werth a ddyfynnwyd ei warantu am 3 mis o’r dyddiad y cafodd ei gyfrifo. Rhaid i chi gadarnhau yn ysgrifenedig os ydych am barhau i drosglwyddo eich budd-daliadau pensiwn o fewn y cyfnod 3 mis a warantwyd.
Pan fydd y Cynllun talu yn derbyn eich cyfarwyddiadau ysgrifenedig eich bod am fwrw ymlaen â’r trosglwyddiad, bydd angen iddo dalu gwerth y trosglwyddiad o fewn 6 mis o’r Dyddiad Gwarantu. Os nad yw’r Cynllun yn talu o fewn y cyfnod hwn, bydd angen ail-gyfrifo’r gwerth trosglwyddo ar ddyddiad y taliad. Bydd angen iddo dalu’r gwerth uwch a ail-gyfrifwyd neu’r gwerth gwreiddiol a llog.
Gwasanaeth Cynghori Ariannol
Gwasanaeth diduedd wedi’i greu gan y Llywodraeth i roi cyngor diragfarn am ddim. Cewch fanteisio ar gynllunwyr cyllideb gwych yn ogystal ag offer arall.
Budd-daliadau’r wladwriaeth
Dewch o hyd i fanylion am fudd-daliadau a phensiwn y wladwriaeth, a sut i gael rhagolwg o bensiwn y wladwriaeth.
Cwestiwn?
Gofyn am ddogfen mewn fformat hygyrch.