Os ydych wedi ymddeol o’ch Swydd, gallwch ymddeol a chymryd eich pensiwn mor gynnar â 50 oed, gyda gostyngiad am dâl cynnar, a gallwch ymddeol o 65 oed a hŷn heb unrhyw ostyngiad am dâl cynnar. Nid oes unrhyw derfyn oedran mewn achosion o afiechyd. Bydd eich tâl pensiwn yn cynyddu bob blwyddyn yn unol â chostau byw, am weddill eich bywyd.
Gallwch wneud cais am ymddeol yn gynnar o 50 oed. Fodd bynnag, os ydych yn iau na 55 oed, bydd angen i chi gael caniatâd y Cyngor i wneud hynny. Nid oes angen caniatâd y Cyngor os byddwch yn ymddeol rhwng 55 a 65 oed. Pan fyddwch yn ymddeol yn gynnar, bydd eich pensiwn yn cael ei leihau am bob blwyddyn rydych yn ei gymryd yn gynnar, er mwyn ystyried y ffaith y bydd eich pensiwn yn cael ei dalu i chi yn hirach.
Os oes gennych ddewis i gyfnewid ychydig o’ch pensiwn am gyfandaliad di-dreth, gelwir hyn yn ‘cymudo’.
Gellir cael manylion llawn ynglŷn ag ymddeol a’r budd-daliadau sy’n daladwy yn y Canllawiau Cynghorwyr (PDF)
Budd-daliadau’r wladwriaeth
Dewch o hyd i fanylion am fudd-daliadau a phensiwn y wladwriaeth, a sut i gael rhagolwg o bensiwn y wladwriaeth.
Gwasanaeth Cynghori Ariannol
Gwasanaeth diduedd wedi’i greu gan y Llywodraeth i roi cyngor diragfarn am ddim. Cewch fanteisio ar gynllunwyr cyllideb gwych yn ogystal ag offer arall.
Cwestiwn?
Gofyn am ddogfen mewn fformat hygyrch.