Os ydych yn Gynghorwr yng Nghymru, ac yn iau na 75 oed, byddwch yn cael llythyr yn eich gwahodd i ymuno â’r Cynllun Pensiwn.
Ar dderbyn y llythyr hwn, y cyfan fydd angen i chi ei wneud fydd cadarnhau’n ysgrifenedig eich bod am ymuno â’r Cynllun Pensiwn. Wrth benderfynu ymuno â’r Cynllun, bydd angen i chi gwblhau ffurflen optio i mewn i ddod yn aelod o’r CPLlL. Ar ôl i ni dderbyn eich ffurflen optio i mewn, bydd eich aelodaeth yn cychwyn o’r diwrnod talu nesaf, a byddwn yn ysgrifennu atoch i gadarnhau eich bod yn aelod o’r Cynllun. Dylech wirio bod cyfraniadau pensiwn yn cael eu tynnu o’ch taliadau lwfans.
Bydd budd-daliadau marwolaeth yn daladwy pe baech yn marw yn aelod o’r cynllun hwn. Gallwch gwblhau Ffurflen Enwebu Grant Marwolaeth i enwebu rhywun i dderbyn y taliadau hyn.
Gwasanaeth Cynghori ar Bensiwn
Gwefan y Llywodraeth yn cynnig canllawiau ac arweiniad diduedd am ddim ar bensiynau.
Beth sydd ar gael
Gwybodaeth ac offer ar-lein, gwasanaeth sgwrsio ar-lein, llinell gymorth ffôn, apwyntiadau personol
CThEM
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am eich treth bersonol neu’ch Yswiriant Gwladol mewn perthynas â’ch pensiwn, gallwch ddod o hyd i wybodaeth yma.
Cwestiwn?
Gofyn am ddogfen mewn fformat hygyrch.