Os gwnaethoch ymaelodi â’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL), wedyn gadawsoch y cynllun a phenderfynu gadael eich buddion pensiwn gyda Chronfa Bensiwn Bro Morgannwg – bydd gennych yr hyn a elwir yn Fuddion Gohiriedig. Mae buddion gohiriedig yn bensiwn â buddion a ddelir yn y CPLlL nes y daw’n daladwy neu’ch bod yn gofyn iddo gael ei drosglwyddo o’r Gronfa.
Mae eich buddion gohiriedig yn cynyddu bob blwyddyn yn unol â’r Mynegai Prisiau Defnyddwyr nes eich bod yn derbyn taliadau pensiwn, sy’n golygu bod eich pensiwn yn codi gyfuwch â chwyddiant. Pan fyddwch yn ymddeol, bydd eich pensiwn yn parhau i godi’n flynyddol bob mis Ebrill yn unol â’r Mynegai Prisiau Defnyddwyr.
Cwestiwn?
Gofyn am ddogfen mewn fformat hygyrch.