Os ydych yn dioddef afiechyd, bydd modd i chi gyflwyno cais i’ch cyn-gyflogwr dalu eich buddion pensiwn gohiriedig ar unwaith ar sail afiechyd. Gallwch chi wneud hyn ar unrhyw oedran ar yr amod bod gennych o leiaf 2 flynedd o aelodaeth gyfan o’r cynllun neu rydych wedi trosglwyddo buddion pensiwn i’r CPLlL.
Os bydd yr Ymarferydd Meddygol Cofrestredig Annibynnol a benodwyd gan eich cyflogwr yn ardystio na allwch ymgymryd â’ch cyflogaeth flaenorol yn barhaol a bod llai o debygolrwydd o ymgymryd â chyflogaeth rhywle arall, bydd hawl i chi ofyn i’ch buddion gohiriedig gael eu rhyddhau ar unwaith ar gyfradd heb ei gostwng.
Caiff eich buddion gohiriedig eu rhyddhau HEB unrhyw daliad chwyddo ar gyfer afiechyd.
Gwasanaeth Arian a Phensiynau
Gwefan y Llywodraeth yn cynnig canllawiau ac arweiniad diduedd am ddim ar bensiynau.
Gwasanaeth Cynghori Ariannol
Gwasanaeth diduedd wedi’i greu gan y Llywodraeth i roi cyngor diragfarn am ddim. Cewch fanteisio ar gynllunwyr cyllideb gwych yn ogystal ag offer arall.
Cwestiwn?
Gofyn am ddogfen mewn fformat hygyrch.