Mae Cronfa Bensiwn Caerdydd a Bro Morgannwg yn rhoi yswiriant bywyd a diogelwch ariannol gwerthfawr i’ch teulu. Dyma’r buddion fyddai’n daladwy petaech yn marw pan yn aelod gohiriedig ar ôl gadael Cronfa Bensiwn Caerdydd a Bro Morgannwg, ond cyn i’ch pensiwn gael ei dalu.
Mae’r buddion a allai fod yn daladwy yn dibynnu ar yr amser y gadawsoch:
Cyfandaliad Grant Marwolaeth
Os gadawsoch y CPLlL ar neu ar ôl 1 Ebrill 2008
Bydd cyfandaliad o bum gwaith eich pensiwn blynyddol gohiriedig yn daladwy.
Os gadawsoch y CPLlL cyn 1 Ebrill 2008
Bydd cyfandaliad o deirgwaith eich pensiwn blynyddol gohiriedig yn daladwy.
Fodd bynnag, os byddwch yn marw pan ydych yn aelod gohiriedig ac mae gennych fuddion cyfredol hefyd, y grant marwolaeth sy’n daladwy fydd yr uchaf o’r canlynol:
- Cyfandaliad grant marwolaeth o bum gwaith (neu, os gadawsoch cyn 1 Ebrill 2008, deirgwaith) eich pensiwn blynyddol gohiriedig, neu
- Deirgwaith eich tâl pensiynadwy tybiedig yn eich cyflogaeth gyfredol.
Mae hyn yn ffigur tâl pensiynadwy tybiannol i sicrhau nad oes unrhyw ostyngiad yn y tâl pensiynadwy yn effeithio ar eich pensiwn oherwydd cyfnod o salwch neu anaf ar dâl contractol gostyngedig neu heb dâl, neu absenoldeb perthnasol sy’n ymwneud â phlant neu absenoldeb gwasanaeth y lluoedd wrth gefn.
I weld sut mae hyn yn gweithio, ewch i’r adran Absenoldeb o’r Gwaith.
Defnyddir tâl pensiynadwy tybiedig hefyd i gyfrifo unrhyw daliad chwyddo i’ch pensiwn oherwydd ymddeol trwy afiechyd, unrhyw gyfandaliad grant marwolaeth yn dilyn marwolaeth mewn gwasanaeth, ac unrhyw daliad chwyddo sydd wedi’i gynnwys mewn buddion goroeswr yn dilyn marwolaeth mewn gwasanaeth.
Os oes gennych fwy nag un budd gohiriedig yn y CPLlL (ar yr amod nad ydych hefyd yn aelod cyfredol y CPLlL ar adeg eich marwolaeth), bydd grant marwolaeth yn daladwy o bob budd gohiriedig wedi’i gyfrifo fel uchod.
Os oeddech chi’n talu Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol (AVC) trwy drefniad AVC mewnol, mae gwerth eich cronfa AVC hefyd yn daladwy.
Gallwch enwebu unigolyn/unigolion neu hyd yn oed sefydliad(au) i dderbyn taliad eich grant marwolaeth. I enwebu rhywun, llenwch Ffurflen Enwebu Grant Marwolaeth (PDF) . Cofiwch ddiweddaru eich Ffurflen Enwebu Grant Marwolaeth yn gyson er mwyn sicrhau y caiff eich buddion eu talu i’r person cywir. Os nad ydych wedi llenwi Ffurflen Enwebu Grant Marwolaeth, caiff y grant marwolaeth ei dalu fel arfer i’ch Cynrychiolwyr Ystad/Personol.
Mae gan Gronfa Pensiwn Caerdydd a Bro Morgannwg ddisgresiwn absoliwt o ran pwy caiff y Grant Marwolaeth ei dalu iddo. Yn achos anghydfod, caiff y taliad ei wneud i’ch Cynrychiolwyr Ystâd/Personol
Buddion Goroeswr
Mae pensiwn yn daladwy i’ch priod, eich partner sifil cofrestredig neu eich partner cymwys sy’n cyd-fyw gyda chi (gan ddibynnu ar amodau penodol ac aelodaeth cynllun ar ôl 1 Ebrill 2008).
Darllenwch ragor o wybodaeth am eich pensiwn goroeswr
Gallwch hefyd gael mwy o wybodaeth am bensiynau plant .
Gwasanaeth Cynghori Ariannol
Gwasanaeth diduedd wedi’i greu gan y Llywodraeth i roi cyngor diragfarn am ddim. Cewch fanteisio ar gynllunwyr cyllideb gwych yn ogystal ag offer arall.
Gwasanaeth Cynghori ar Bensiwn
Gwefan y Llywodraeth yn cynnig canllawiau ac arweiniad diduedd am ddim ar bensiynau.
Cwestiwn?
Gofyn am ddogfen mewn fformat hygyrch.