Ar ôl i chi adael cyflogaeth llywodraeth leol gyda phensiwn CPLlL â buddion gohiriedig, gallwch benderfynu a ydych am adael eich buddion yn y cynllun lle byddant yn cynyddu yn unol â chwyddiant bob blwyddyn, neu eu trosglwyddo i gynllun cyflogwr newydd neu gynllun pensiwn personol. Mae hyd yn oed yn bosibl trosglwyddo’r rhain i gynllun pensiwn tramor.
Ni allwch drosglwyddo eich buddion os ydych yn gadael gyda llai na blwyddyn cyn eich oedran pensiwn arferol, naill ai dan CPLlL 2007 neu CPLlL 2013, ni waeth a adawsoch cyn neu ar ôl 1 Ebrill 2014.
Sut mae trosglwyddo fy muddion gohiriedig?
Os dymunwch drosglwyddo eich buddion pensiwn o’r CPLlL, rhaid i chi gysylltu â’ch darparwr pensiwn newydd i ofyn am werth trosglwyddo. Byddant yn gofyn i chi gwblhau rhai Ffurflenni Awdurdodi Trosglwyddiad sy’n rhoi awdurdod iddynt gysylltu â ni a gofyn am ddyfynbris gan Gronfa Bensiwn Caerdydd a Bro Morgannwg. Pan fyddwn yn anfon dyfynbris trosglwyddiad, caiff ei warantu am 3 mis o’r dyddiad cyfrifo. Os byddwch yn trosglwyddo eich buddion CPLlL i drefniad Cyfraniadau Diffiniedig, RHAID eich bod wedi cael cyngor gan Ymgynghorydd Ariannol Annbynnol (YAA) a awdurdodir gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (AYA) – gellid codi ffi am hyn
Ailymaelodi â’r CPLlL gyda Chronfa Bensiwn Llywodraeth Leol arall
Os ydych yn ailymaelodi neu rydych eisoes wedi ailymaelodi â’r CPLlL mewn cronfa bensiwn arall yng Nghymru a Lloegr, rhaid i chi:
- ddweud wrth y Gronfa Bensiwn rydych wedi ymaelodai â hi bod gennych fuddion pensiwn gohiriedig yng Nghronfa Bensiwn Caerdydd a Bro Morgannwg
- dweud wrth Gronfa Bensiwn Caerdydd a Bro Morgannwg eich bod yn aelod gweithredol o gronfa CPLlL arall yng Nghymru a Lloegr
- dweud wrth Gronfa Bensiwn Caerdydd a Bro Morgannwg eich bod yn aelod gweithredol o unrhyw wasanaeth yn y cyfamser yng nghynllun pensiwn unrhyw wasanaeth cyhoeddus arall (hyd yn oed os derbyniwyd ad-daliad o gyfraniadau mewn perthynas â’r gwasanaeth hwnnw).
Mae angen pwyntiau 1 a 2 i sicrhau eich bod yn cael gwybod am yr holl opsiynau priodol sydd ar gael i chi am grynhoi eich buddion. Os nad ydych yn ein hysbysu bod pwynt 3 yn berthnasol i chi, mae’n bosib na chaiff rhai hawliau statudol eu rhoi i’ch buddion. Er enghraifft, i gyswllt cyflog terfynol os byddwch yn penderfynu crynhoi unrhyw aelodaeth CPLlL cyn 1 Ebrill 2014.
Os byddwch yn trosglwyddo eich pensiwn i gronfa y tu allan i’r CP, NI fydd hawl i chi dderbyn unrhyw fuddion ychwanegol gan y CPLlL i chi eich hun neu unrhyw oroeswr.
Gwnewch gais i drosglwyddo buddion pensiwn blaenorol
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
Ewch i wefan CPLlL i gael rhagor o fanylion am eich pensiwn a defnyddio offer ar-lein i’ch helpu i gyfrifo’ch cyfraniadau pensiwn neu weld oddeutu faint fydd eich pensiwn pan fyddwch yn ymddeol.
Cwestiwn?
Gofyn am ddogfen mewn fformat hygyrch.