Os daethoch yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL) ar neu cyn 31 Mawrth 2014 a gadawsoch chi ar ôl 1 Ebrill 2014, bydd eich aelodaeth hyd at 31 Mawrth 2014 wedi cael ei chyfrifo trwy ddefnyddio eich tâl pensiynadwy cyfwerth amser cyfan ar y dyddiad y penderfynoch beidio ag ymuno neu’r dyddiad y gadawsoch.
Eich Aelodaeth o’r Cynllun
Bydd eich aelodaeth hyd at 31 Mawrth 2014 wedi cael ei mesur mewn blynyddoedd a diwrnodau ac mae’n cynnwys unrhyw aelodaeth a ddyrannwyd i drosglwyddo hawliau pensiwn blaenorol i’r cynllun.
Os oeddech yn gweithio’n rhan-amser yn ystod y cyfnodau hyn, mae’n debyg mai pro rata oedd eich aelodaeth gyfan yn unol â’ch oriau rhan-amser.
Eich Cyflog Terfynol
Hwn yw swm y tâl pensiynadwy yr ydych wedi’i dderbyn yn ystod blwyddyn olaf eich cyflogaeth h.y. 365 diwrnod yn ôl o’ch diwrnod gadael. Fodd bynnag, gallai fod yn seiliedig ar y ddwy flynedd flaenorol, os oedd tâl pensiynadwy uwch.
Os ydych yn gweithio’n rhan-amser, caiff eich tâl terfynol ei gyfrif fel cyfwerth amser cyfan.
NI fydd unrhyw oramser heb gontract a weithiwyd gennych yn cael ei gynnwys wrth gyfrifo eich tâl terfynol.
Cyfrifo eich Buddion Gohiriedig
Yn achos aelodaeth hyd at 31 Mawrth 2008, caiff buddion eu cyfrifo ar rannau o 80, gyda hawl awtomatig i gyfandaliad cyfwerth â theirgwaith eich pensiwn blynyddol.
Aelodaeth ÷ 80 x Tâl Terfynol = Pensiwn Blynyddol
Yn achos aelodaeth o 1 Ebrill 2008 tan 31 Mawrth 2014, caiff buddion eu cyfrifo trwy ddefnyddio rhannau o 60, ond HEB hawl i gyfandaliad awtomatig.
Aelodaeth ÷ 60 x Tâl Terfynol = Pensiwn Blynyddol
Cyfanswm cyfunol eich pensiwn rhannau 60 a 80 fydd cyfanswm eich pensiwn blynyddol CPLlL, a hefyd byddwch yn derbyn cyfandaliad awtomatig ar gyfer eich cyfnod aelodaeth cyn 31 Mawrth 2008.
Fodd bynnag, byddwch hefyd yn cael yr opsiwn pan fyddwch yn ymddeol o ildio peth o’ch pensiwn i gynyddu eich cyfandaliad awtomatig neu ennill peth arian di-dreth os dechreuoch yn y cynllun ar neu ar ôl 1 Ebrill 2008.