Ar 1 Ebrill 2008, cyflwynwyd Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL) 2007 yng Nghymru a Lloegr, a newidiodd sut caiff buddion eu cyfrifo.
Os gadawsoch chi’r cynllun ar neu rhwng 1 Ebrill 2008 a 31 Mawrth 2014, bydd cyflwyno’r cynllun hwn wedi effeithio ar sut caiff eich buddion gohiriedig eu cyfrifo.
Gweler mwy o wybodaeth am sut caiff eich buddion gohiriedig eu cyfrifo.
Oedran ymddeol arferol y cynllun yw 65 , ond gallwch ddewis derbyn eich buddion CPLlL ar unrhyw adeg o 55 oed. Fodd bynnag, caiff eich pensiwn ei leihau ar gyfer taliad cynnar – gweler Ffactorau Ymddeol yn Gynnar (PDF) , wedi’i gyfrifo gan Adran Actiwari’r Llywodraeth (GAD).
Os gadawsoch y cynllun â buddion gohiriedig ar neu ar ôl 1 Ebrill 2008, mae’n bosib y gallech dderbyn eich buddion CPLlL yn wirfoddol o oedran mor gynnar â 55.
Os gadawsoch y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL) ar neu rhwng 1 Ebrill 2008 a 31 Mawrth 2014, bydd eich buddion gohiriedig wedi cael eu cyfrifo trwy ddefnyddio eich tâl pensiynadwy cyfwerth amser cyfan ar y dyddiad y penderfynoch beidio ag ymuno neu’r dyddiad y gadawsoch, a’ch aelodaeth o’r cynllun hyd hynny.
Eich Aelodaeth o’r Cynllun
Caiff hyd eich aelodaeth gyfan ei fesur mewn blynyddoedd a diwrnodau ac mae’n cynnwys hyd yr amser rydych wedi bod yn aelod o’r CPLlL, yn ogystal ag unrhyw aelodaeth a ddyrannwyd i drosglwyddo hawliau pensiwn blaenorol i’r cynllun.
Os oeddech yn gweithio’n rhan-amser yn ystod y cyfnodau hyn, mae’n debyg mai pro rata oedd eich aelodaeth gyfan er mwyn cymryd eich oriau rhan-amser i ystyriaeth.
Eich Tâl Terfynol
Hwn yw swm y tâl pensiynadwy yr ydych wedi’i dderbyn yn ystod blwyddyn olaf eich cyflogaeth h.y. 365 diwrnod yn ôl o’ch diwrnod gadael. Fodd bynnag, gallai fod yn seiliedig ar y ddwy flynedd flaenorol, os yw’n uwch.
Os ydych yn gweithio’n rhan-amser, caiff eich tâl terfynol ei gyfrif fel cyfwerth amser cyfan.
NI FYDD unrhyw oramser heb gontract a weithiwyd gennych yn cael ei gynnwys wrth gyfrifo eich tâl terfynol.
Cyfrifo eich Buddion Gohiriedig
Yn achos aelodaeth o 1 Ebrill tan 31 Mawrth 2014, caiff buddion eu cyfrifo trwy ddefnyddio rhannau o 60, ond HEB hawl i gyfandaliad awtomatig.
Aelodaeth ÷ 60 x Tâl Terfynol = Pensiwn Blynyddol
Cyfanswm cyfunol eich pensiwn rhannau 60 a 80 fydd cyfanswm eich pensiwn blynyddol CPLlL, a hefyd byddwch yn derbyn cyfandaliad awtomatig ar gyfer eich cyfnod aelodaeth cyn 31 Mawrth 2008.
Fodd bynnag, byddwch hefyd yn cael yr opsiwn pan fyddwch yn ymddeol o ildio peth o’ch pensiwn i gynyddu eich cyfandaliad awtomatig neu ennill peth arian di-dreth os dechreuoch yn y cynllun ar neu ar ôl 1 Ebrill 2008.
Mae eich buddion gohiriedig yn gysylltiedig â’r mynegai, felly bydd eich gwerth yn cynyddu bob mis Ebrill yn unol â’r Mynegai Prisiau Defnyddwyr (MPD) .
Ar ôl i chi ymddeol, byddwch yn cael yr opsiwn i ildio peth o’ch pensiwn er mwyn cael cyfandaliad di-dreth – a elwir yn Gyfnewidiad. Am bob £1 o’ch pensiwn rydych yn ei ildio, byddwch yn derbyn £12 o gyfandaliad (hyd at 25% o werth cyfalaf eich buddion ac yn ogystal ag unrhyw hawl cyfandaliad awtomatig a allai fod gennych o ran eich aelodaeth hyd at ac yn cynnwys 31 Mawrth 2008).
Pan fyddwch yn dweud wrthym eich bod yn ystyried ymddeol, byddwn yn anfon eich manylion ymddeol atoch a fydd yn cynnwys ffigurau ar gyfer eich gwerthoedd pensiwn sylfaenol ac uchafswm y symiau cyfandaliad ychwanegol y gallwch eu cymryd. Byddwn hefyd yn anfon manylion atoch ynglŷn â sut i gyfnewid eich pensiwn am gyfandaliad.
Os ydych erioed wedi cyfrannu at drefniad AVC mewnol, gallech ystyried defnyddio’r gronfa hon i hybu eich buddion CPLlL. NI fydd unrhyw ostyngiad i’ch pensiwn blynyddol er mwyn rhoi cyfandaliad di-dreth yn lleihau unrhyw fuddion goroeswr dilynol a allai fod yn daladwy ar ôl i chi farw.
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
Ewch i wefan CPLlL i gael rhagor o fanylion am eich pensiwn a defnyddio offer ar-lein i’ch helpu i gyfrifo’ch cyfraniadau pensiwn neu weld oddeutu faint fydd eich pensiwn pan fyddwch yn ymddeol.
Gwasanaeth Cynghori Ariannol
Gwasanaeth diduedd wedi’i greu gan y Llywodraeth i roi cyngor diragfarn am ddim. Cewch fanteisio ar gynllunwyr cyllideb gwych yn ogystal ag offer arall.
Cwestiwn?
Gofyn am ddogfen mewn fformat hygyrch.