Mae eich Cyflogwr yn talu am y rhan fwyaf o’ch budd-daliadau pensiwn. Faint fyddhyn yn costio chi yn dibynnu ar faint ydych yn ei ennill, ond bydd rhwng 5.5% a 12.5% o’ch tâl pensiwn dan BRIF Ran y Cynllun. Adolygir cyfraddau cyfraniadau’n rheolaidd a gallent newid yn y dyfodol.
Fodd bynnag, mae’r swm y byddwch yn ei dalu i fod yn aelod o’r Cynllun yn llawer llai nag yr ydych yn meddwl, gan y byddwch yn derbyn gostyngiad yn y dreth ar y gostyngiadau yr ydych yn eu talu. Dosberthir unrhyw oramser contract neu nad yw’n gontract yn dâl pensiwn – sy’n golygu y byddwch yn talu cyfraniadau pensiwn ar yr arian ychwanegol hwn.
Enghraifft:
Mae Mary yn ennill £22,500 bob blwyddyn.
6.50% fydd ei chyfradd cyfrannu.
£22,500 x 6.50% = £1,462.50 y flwyddyn (£121.88 y mis)
Ar ôl gostyngiad yn y dreth o 20%, yr union ostyngiad fydd = £1,170 y flwyddyn (£ 97.50 y mis)
Gallai swm y gostyngiad yn y Dreth fod yn wahanol yn dibynnu ar eich cyflog
Os ydych am ymuno â’r Cynllun Pensiwn, ond na allwch fforddio’r gyfradd cyfrannu llawn, gallwch chi optio i ymuno ag Adran 50:50 y cynllun dros dro. Byddwch yn talu hanner y gyfradd cyfrannu, ac adeiladu hanner y budd-daliadau pensiwn yn y cynllun. Bydd hyn yn opsiwn llawer gwell na pheidio ag ymuno â’r Cynllun Pensiwn o gwbl, neu optio allan o’r cynllun yn gyfangwbl.
Ymuno â’r Cynllun
Os hoffech chi ymuno â’r Gronfa Bensiwn, llenwch y ffurflen hon:
Gwasanaeth Cynghori Ariannol
Gwasanaeth diduedd wedi’i greu gan y Llywodraeth i roi cyngor diragfarn am ddim. Cewch fanteisio ar gynllunwyr cyllideb gwych ac offer eraill hefyd.
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
Ewch i wefan CPLlL i gael rhagor o fanylion am eich pensiwn a defnyddio offer ar-lein i’ch helpu i gyfrifo’ch cyfraniadau pensiwn neu weld oddeutu faint fydd eich pensiwn pan fyddwch yn ymddeol.
Cwestiwn?
Gofyn am ddogfen mewn fformat hygyrch.