Mae ymuno â’r CPLlL yn ffordd wych o ddechrau arbed ar gyfer eich ymddeoliad, ac mae’n cynnwys buddion ardderchog, megis:
- Incwm indecs gyswllt gwarantiedig sy’n daladwy trwy gydol eich ymddeoliad
- Yswiriant Bywyd o’r diwrnod ymuno, sy’n cynnwys taliad grant marwolaeth di-dreth sy’n 3 gwaith yn fwy na’ch tâl pensiwn tybiedig, ac sy’n daladwy fel sydd wedi’i nodi ar eich Ffurflen Enwebu Marwolaeth, os byddwch yn marw tra’ch bod yn aelod actif o’r cynllun. Yn wahanol i ffurfiau eraill o sicrwydd bywyd, nid oes archwiliad meddygol.
- Budd-daliadau i Oroeswyr sy’n daladwy i ŵr/gwraig, partner sifil cofrestredig neu bartner sy’n byw gyda chi ac unrhyw blant cymwys a allai fod gennych, os byddwch yn marw.
- Cyfnewid pensiwn am arian di-dreth – pan fyddwch yn ymddeol gallwch dewis cyfnewid rhywfaint o’ch pensiwn i gynyddu eich cyfandaliad di-dreth. Am bob £1 o’ch pensiwn eich bod yn ei gyfnewid, byddwch yn derbyn £12 ychwanegol di-dreth (yn amodol ar gyfyngiadau CThEM penodol)
- Cyfraniadau di-dreth – mae cyfraniadau’n cael eu cymryd o’ch tâl gros cyn bod treth incwm yn cael ei ddiddymu
- Mae cyflogwyr yn cyfrannu swm sylweddol i helpu i ariannu holl fuddion y Cynllun. Mae’r cyfraniad hwn yn sylweddol uwch na chyfraniadau eraill cyflogwyr, o’i gymharu â llawer o gynlluniau pensiwn galwedigaethol eraill. Os ydych ond yn talu i mewn i Bensiwn Personol, ni fydd cyfraniad gan gyflogwr.
- Dim ffioedd gweinyddol – yn wahanol i bensiwn personol
- Dim risg buddsoddi mae’r CPLlL yn gynllun budd-daliadau diffiniedig wedi’i reoleiddio gan stadud, felly gallwch gael lefel warantedig o fudd-daliadau pan fyddwch yn ymddeol
- Diogelwch yn achos salwch – os dewch yn rhy sâl i barhau i weithio, gallai eich budd-daliadau pensiwn gael eu talu’n gynnar, ac mewn rhai achosion heb ostyngiad.
- Oedran ymddeol hyblyg o 55 i 75
- Cynyddu eich budd-daliadau pensiwn – trwy brynu pensiwn ychwanegol neu fuddsoddi yng Nghyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol (CGY)
Os hoffech chi ymuno â’r cynllun pensiwn llenwch y Ffurflenni Ymuno.
Ymuno â’r Cynllun
Os hoffech chi ymuno â’r Gronfa Bensiwn, llenwch y ffurflen hon:
Gwasanaeth Cynghori ar Bensiwn
Gwefan lywodraeth yn cynnig canllawiau ac arweiniad diduedd am ddim ar bensiynau
Beth sydd ar gael
Gwybodaeth ac offer ar-lein, gwasanaeth sgwrsio ar-lein, llinell gymorth ffôn, apwyntiadau personol
CThEM
Os oes gennych unrhyw gwestiyna am eich treth bersonol neu’ch Yswiriant Gwladol mewn perthynas â’ch Cronfa Bensiwn gyda Chaerdydd a’r Fro, gallwch gael gwybodaeth yma.
Cwestiwn?
Gofyn am ddogfen mewn fformat hygyrch.