Pan ydych yn ifanc, mae ymddeol yn rhywbeth ymhell yn y dyfodol, ac mae llawer mwy galwon mwy syth ar eich arian, megis prynu tŷ neu dalu eich benthyciad myfyriwr yn ôl.
Mae llawer o bobl yn meddwl bod pensiynau’n gymhleth, yn ddiflas ac yn rhywbeth nad oes rhaid meddwl amdano tra’ch bod yn ifanc – ond, y gwir yw os ydych yn dechrau arbed yn ifanc ar gyfer eich ymddeoliad, bydd yn well arnoch pan daw hi’n amser i chi ymddeol!
Cynlluniwch ymlaen llaw
Cyhyd â’n bod yn byw’n hwy, mae angen i ni feddwl yn yr hirdymor ac chynllunio ymlaen llaw, am sut y byddwn yn cefnogi pan fyddwn yn ymddeol, pan fo ein cyfnod gweithio’n dod i ben.
Ni waeth oedran, dylai fod gan bob rhyw fath o gynllun ymddeol mewn cof, y gallwch ei adeiladu a’i ddatblygu wrth i chi heneiddio ac wrth i’ch amgylchiadau newid. Dylai eich ymddeoliad fod yn amser yn llawn mwynhad ac anturiau, NID yn amser y byddwch yn poeni am arian!
Gwasanaeth Cynghori Ariannol
Gwasanaeth diduedd wedi’i greu gan y Llywodraeth i roi cyngor diragfarn am ddim. Cewch fanteisio ar gynllunwyr cyllideb gwych ac offer eraill hefyd.
Budd-daliadau’r wladwriaeth
Dewch o hyd i fanylion am fudd-daliadau a phensiwn y wladwriaeth, a sut i gael rhagolwg o bensiwn y wladwriaeth
Cwestiwn?
Gofyn am ddogfen mewn fformat hygyrch.