Gallech chi drosglwyddo hawliau pensiwn blaenorol i’r CPLlL o:
- Gronfa CPLlL flaenorol
- cynllun pensiwn gan Gyflogwr blaenorol – gan gynnwys cynllun pensiwn galwedigaethol tramor
- cynllun pensiwn hunangyflogedig
- polisi ‘prynu allan’
- cynllun pensiwn personol
- cynllun pensiwn cyfranddeiliaid
Rhaid gwneud cais i drosglwyddo unrhyw fudd-daliadau pensiwn blaenorol i’r CPLlL o fewn 12 mis o ymuno â’r Cynllun.
Er mwyn gwneud cais, llenwch y Ffurflen Awdurdodi Trosglwyddiad a’i dychwelyd i’ch Cyflogwr.
Dylid ystyried yn ofalus a yw’n fuddiol i chi drosglwyddo eich hawliau pensiwn blaenorol i’r CPLlL neu beidio. Efallai y byddwch am gael Cyngor Ariannol Annibynnol cyn gwneud y penderfyniad hwn.
Beth os ydw i wedi colli cyswllt gyda fy narparwr pensiwn blaenorol?
Mae gan y Gwasanaeth Tracio Pensiwn fanylion am bron bob un o’r cynlluniau pensiwn yn y DU ac yn darparu gwasanaeth tracio AM DDIM i bawb.
Cwestiwn?
Gwnewch gais i drosglwyddo buddion pensiwn blaenorol
Gwasanaeth Cynghori Ariannol
Gwasanaeth diduedd wedi’i greu gan y Llywodraeth i roi cyngor diragfarn am ddim. Cewch fanteisio ar gynllunwyr cyllideb gwych ac offer eraill hefyd.
Cwestiwn?
Gofyn am ddogfen mewn fformat hygyrch.