Os byddwch yn marw cyn ymddeol, bydd y buddion canlynol yn daladwy:
Telir pensiwn y goroeswr i’ch priod, eich partner sifil cofrestredig, neu eich partner cyd-fyw cymwys (mae amodau cymhwyso penodol yn berthnasol) drwy gydol ei oes.
Gweler sut y cyfrifir buddion pensiwn y goroeswr .
Er mwyn talu pensiwn y goroeswr i’ch Partner Cyd-fyw cymwys, mae’n rhaid i’r holl amodau canlynol fod yn berthnasol am gyfnod di-dor o ddwy flynedd o leiaf cyn eich marwolaeth:
- mae’r ddau ohonoch yn gymwys i briodi neu fod mewn partneriaeth sifil gyda’ch gilydd
- rydych chi wedi bod yn byw gyda’ch gilydd fel gŵr a gwraig, neu fel partneriaid sifil
- nid oedd y naill ohonoch chi wedi bod yn byw gyda rhywun arall fel gŵr a gwraig, nac fel partneriaid sifil
- mae eich partner yn dibynnu arnoch yn ariannol neu rydych chi’ch dau yn ddibynnol ar eich gilydd yn ariannol.
Pensiwn i Blant
Os byddwch yn marw ar ôl ichi ymddeol, gan adael un plentyn cymwys neu fwy, byddai ganddo’r hawl i bensiwn plant, a fydd yn daladwy o’r diwrnod ar ôl ichi farw.
Byddai’r pensiwn yn cael ei dalu i’r rhiant sy’n goroesi neu i’r gwarcheidwad cyfreithiol nes y bydd yn 18 oed o leiaf. Gall y plant cymwys fod yn gyfreithlon, yn anghyfreithlon neu wedi eu mabwysiadu, neu unrhyw blentyn sydd wedi’i dderbyn yn aelod o’r teulu, ac a oedd yn dibynnu ar yr aelod pan fu farw.
Os oes gan y plentyn cymwys anabledd corfforol neu feddyliol ers yr adeg cyn iddo fod yn 18, bydd y pensiwn plentyn yn cael ei dalu nes y bydd yr anabledd yn bresennol.
Gellir talu pensiynau i blant sy’n hŷn na 18 oed, hyd at 23 oed fan bellaf, ar yr amod eu bod mewn addysg amser llawn parhaus, neu’n cyflawni cwrs hyfforddiant cymeradwy am o leiaf 2 flynedd.
Gweler sut y cyfrifir pensiynau’r plentyn
Swm Crynswth Grant Marwolaeth
Os gwnaethoch adael ar neu ar ôl 1 Ebrill 2008, gall Swm Crynswth Grant Marwolaeth fod yn daladwy pan fyddwch yn marw. Fodd bynnag, i fod yn gymwys, mae angen ichi fod o dan 75 oed ar ddyddiad y farwolaeth.
Gwarentir eich taliadau pensiwn am 10 mlynedd – sy’n golygu os byddwch yn marw o fewn 10 mlynedd o ddyddiad eich ymddeoliad, bydd y swm taladwy yn 10 gwaith eich pensiwn blynyddol, gan ddidynnu unrhyw bensiwn a gafodd ei dalu eisoes.
Er enghraifft, os yw eich pensiwn yn £10,000 y flwyddyn ac rydych wedi ymddeol ers 2 flynedd a 6 mis, y Swm Crynswth Grant Marwolaeth taladwy fydd:
£10,000 X 10 = £100,000 – gan ddidynnu taliadau gwerth 2 flynedd a 6 mis £25,000 = £75,000 taliad terfynol
Fodd bynnag, os ydych chi wedi bod yn derbyn eich pensiwn ers 10 mlynedd neu fwy, ni fydd Swm Crynswth Grant marwolaeth yn daladwy pan fyddwch yn marw.
Os gwnaethoch adael ar neu cyn 31 Mawrth 2008, y Grant Marwolaeth taladwy os byddwch yn marw fydd 5 gwaith gwerth eich pensiwn blynyddol, gan ddidynnu unrhyw bensiwn sydd eisoes wedi’i dalu.
Felly, os ydych chi’n derbyn eich pensiwn ers 5 mlynedd neu fwy, ni fydd Swm Crynswth Grant Marwolaeth yn daladwy pan fyddwch yn marw.
Os gwnaethoch adael y CPLlL cyn 1 Ebrill 1998, mae cyfrifiad y grant marwolaeth yn dibynnu ar ba un ai a ydych chi wedi bod yn gweithio am fwy neu lai na 10 mlynedd sy’n cyfrif tuag at eich buddion pensiwn. Mae’r cyfrifiad yn un cymhleth a gallwch ofyn i weinyddwr eich cronfa pensiwn roi amcangyfrif o’r swm a all fod yn daladwy, os yw hyn yn berthnasol.
Os ydych yn tynnu pensiwn ac rydych yn aelod presennol o GPLlL wrth ichi farw, y grant marwolaeth taladwy yw’r un uwch allan o:
Y swm a gyfrifir uchod, neu
deirgwaith eich tâl pensiwn tybiedig yn eich cyflogaeth gyfredol
Gallwch enwebu unrhyw berson, sefydliad neu elusen i gael taliad grant marwolaeth, a gall yr arian gael eu dosbarthu ym mha bynnag ffyrdd yr ydych yn eu dymuno. I enwebu rhywun, llenwch Ffurflen Enwebu Grant Marwolaeth.
Os na enwebir neb, gwneir taliad grant marwolaeth fel arfer i’ch Ystâd neu i’ch Cynrychiolydd Personol.
Mae gan Gronfa Pensiwn Caerdydd a Bro Morgannwg ddisgresiwn absoliwt i bwy caiff y Grant Marwolaeth ei dalu.
Cofiwch gadw gwybodaeth eich ffurflen enwebu grant marwolaeth yn gyfredol, bob amser. Os dymunwch newid eich enwebiad blaenorol, bydd angen ichi gwblhau Ffurflen Enwebu Grant Marwolaeth arall.
Gwasanaeth Cynghori Ariannol
Gwasanaeth diduedd wedi’i greu gan y Llywodraeth i roi cyngor diragfarn am ddim. Cewch fanteisio ar gynllunwyr cyllideb gwych yn ogystal ag offer arall.
Cwestiwn?
Gofyn am ddogfen mewn fformat hygyrch.