Telir eich pensiwn CPLlL bob mis calendr yng nghyfrif Banc/Cymdeithas Adeiladu o’ch dewis yn uniongyrchol drwy drosglwyddiad BACS.
I newid manylion eich cyfrif Banc neu Gymdeithas Adeiladu, bydd angen ichi lenwi Ffurflen Newid Manylion Banc a’i hanfon yn ôl i Gronfa Pensiwn Caerdydd a Bro Morgannwg cyn gynted â phosibl.
Yn anffodus, am resymau diogelwch, ni allwn newid eich manylion banc neu gymdeithas adeiladu dros y ffôn.
Mae’n rhaid inni gael eich manylion banc newydd erbyn y 15fed o’r mis hwnnw i wneud yn siŵr y telir eich pensiwn ar gyfer y mis hwnnw yn eich cyfrif banc newydd.
A allaf gael taliadau fy mhensiwn mewn cyfrif banc dramor?
Os hoffech gael taliadau eich pensiwn mewn cyfrif banc dramor, bydd angen ichi gysylltu â thîm taliadau Cyngor Caerdydd ar Rif Ffôn: 029 2087 2311 neu drwy e-bost paycontrol@caerdydd.gov.uk a gofyn am Ffurflen Mandadu Bancio, gan nodi ble y dymunwch i’ch pensiwn gael ei dalu. Gall y broses hon gymryd wythnosau i’w gosod.
Caiff taliadau eu codi am gyfnewid arian a’u trosglwyddo wrth dalu eich pensiwn i mewn i gyfrif tramor.
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
Defnyddiwch yr offeryn ar-lein i gyfrifo eich buddion pensiwn.
Cwestiwn?
Gofyn am ddogfen mewn fformat hygyrch.