Bydd yn rhaid ichi dalu treth ar eich pensiwn os yw cyfanswm eich incwm yn uwch na’r trothwy lwfans personol. Gweler lefel bresennol y cyfraddau a’r bandiau Treth Incwm i weld p’un ai a fyddwch yn talu treth.
Os oes angen ichi dalu treth, caiff hon ei didynnu wrth y ffynhonnell gan Gronfa Pensiwn Caerdydd a Bro Morgannwg ar sail Talu Wrth Ennill, a bydd y manylion ar eich slip tâl.
Pan fyddwch yn ymddeol, bydd CThEM yn rhoi cod treth newydd inni ar eich cyfer, fodd bynnag wrth inni aros am y cod newydd, byddwn yn defnyddio y cod treth ar eich ffurflen P45 y dylai eich cyn Gyflogwr ei hanfon atom.
Os nad yw eich cod treth diwethaf yn hysbys, byddwn yn defnyddio cod OT, sef – cod treth argyfwng – sy’n golygu na chaiff lwfans di-dreth ei ystyried. Defnyddir y cod hwn fel dull dros dro yn unig.
Dylid anfon pob ymholiad ynglŷn â threth incwm i CThEM yn uniongyrchol, gallwch gysylltu â nhw drwy’r ffôn ar 0300 200 3300. Pan fyddwch yn ffonio bydd angen dyfynnu:
- Eich Cyfenw
- Eich Rhif Yswiriant Gwladol
- cyfeirnod Cronfa Pensiwn Caerdydd a Bro Morgannwg – 948 / C1500C
CThEM
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am eich treth bersonol neu’ch Yswiriant Gwladol sy’n berthnasol i’ch Cronfa Bensiwn Caerdydd a’r Fro, gallwch ddod o hyd i wybodaeth yma.
A oes angen Ymgynghorwr Ariannol Annibynnol arnoch?
Cysylltwch ag Unbiased
Cwestiwn?
Gofyn am ddogfen mewn fformat hygyrch.